Cynnydd mewn damweiniau: Galw am wella rhwydwaith beicio

  • Cyhoeddwyd
Owain DoullFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 50% yn fwy o feicwyr wedi cael damwain ddifrifol yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf o'i gymharu â'r pum mlynedd cynt, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r pencampwr Olympaidd Owain Doull yn dweud fod angen gwneud mwy i'w gwneud hi'n fwy diogel i feicio yng Nghymru, gan wella'r rhwydwaith presennol.

Ar raglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru ddydd Iau mae'r elusen Sustrans, sy'n cydweithio â chyrff cyhoeddus er mwyn gwella rhwydweithiau beicio ym Mhrydain, yn dweud fod y diffygion yn y rhwydwaith seiclo yng Nghymru yn fwyfwy amlwg oherwydd y cynnydd yn y nifer sy'n beicio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod £11m wedi ei glustnodi ar gyfer cynlluniau lleol eleni - a dros £1.5m ar gyfer prosiectau ar briffyrdd.

Agweddau

Mae Manylu wedi bod yn gofyn ai o ganlyniad i fwy o feicwyr ar ein ffyrdd, neu oherwydd agweddau, y bu cynnydd yn nifer y damweiniau difrifol.

Mae Garry Ellis yn beicio o gwmpas ei gartref yn Rhostryfan yng Ngwynedd ers blynyddoedd ac yn aelod o glwb beicio EGNI, sydd ag aelodau o Wynedd a Môn.

Dywedodd wrth y rhaglen: "Mae 'na lot o bethau'n digwydd yn ddiweddar.

"Dan ni wedi cael dau neu dri damwain ymysg ein haelodau jyst yn yr wythnos diwethaf. Ac abuse pan 'da ni'n reidio. Ma 'na 'wbath yn digwydd bob tro dwi'n mynd allan."

Ychydig filltiroedd i ffwrdd ym mhentre Caeathro fe gafodd Rhian Thomas, sy'n gyn-hyfforddwr reidio i Gyngor Gwynedd, ddamwain tra'n reidio.

"O ni ar y roundabout ac wrth i mi fynd heibio un o'r junctions i'r pentre mi na'th 'na gar ymuno â'r roundabout reit o fy mlaen i a cnocio fi off fy meic.

"Neshi landio 'chydig o fetrau i ffwrdd.

"Doeddwn i ddim yn gwybod am 'chydig os oeddwn yn fyw neu beidio, ond o ni'n gwybod ei fod yn ddifrifol. Neshi dorri fy nwy fraich ac ysgwydd...roedd fy helmed yn ddarnau a dwi'n gwybod 'nath o safio fy mywyd."

Disgrifiad,

Garry Ellis o glwb beicio EGNI yn siarad am ei brofiadau ar raglen Manylu.

Mwy yn beicio

"Gadewch ddigon o le wrth fynd heibio beics" ydi'r cyngor i yrrwyr yn llyfr Rheolau'r Ffordd Fawr ym Mhrydain.

Mae gwledydd eraill yn rhoi arweiniad penodol yn ôl Garry Ellis, sy'n mynd dramor i seiclo sawl gwaith y flwyddyn.

"Dwi'n reidio lot yn Sbaen a Ffrainc ac mae ceir yno yn gorfod gadael gap o leia 1.5 medr rhyngddyn nhw a beics pan mae nhw yn pasio. Am bod o'n gyfraith maen nhw'n neud o.

"Dwi yn aml yn reidio dramor ac yn wondro pam bod rhywun tu ôl fi ddim yn pasio fi, ond wedyn yn sylweddoli ei fod o am nad oes digon o le iddo gael yr 1.5 medr mae o angen."

Mae'r elusen Sustrans yn dweud fod y diffygion yn ein rhwydwaith feicio yng Nghymru yn amlwg oherwydd y cynnydd yn y nifer sy'n beicio.

Mae Caerdydd yn esiampl berffaith o rai o'r diffygion yn ôl Natasha Withey, sy'n gweithio i'r elusen ac yn byw yng Nghaerdydd. Dim ond ar feic mae hi yn teithio, does ganddi ddim car.

"Mae na ffyrdd ac ardaloedd lle mae'n anodd iawn i feicwyr yng Nghaerdydd," meddai.

"Yn ôl ymchwil y gwnaethon ni y llynedd roedd 78% o bobl Caerdydd eisiau gweld mwy o wariant ar wella diogelwch i feicwyr, a ffyrdd penodol ar eu cyfer."

Gwario llai

Mae awdurdodau yng Nghymru yn gwario £4 y pen ar gynlluniau beicio a cherdded o'i gymharu â £20 yn yr Iseldiroedd, lle mae beicio yn llawer mwy cyffredin. Mae ymchwil yn awgrymu fod nifer y damweiniau yn lleihau os oes nifer fawr o bobl yn beicio mewn un ardal.

Mae'r beiciwr Owain Doull o Gaerdydd, wnaeth ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd eleni, yn dweud wrth Manylu y byddai mwy o bobl yn beicio petai'r ffyrdd yn fwy apelgar a saffach i'w defnyddio.

"Mae seiclo yn weithgaredd mor fawr yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn," meddai. "Ac mae'n bwysig ein bod yn hwyluso hi i bobl reidio drwy eu cadw'n ddiogel, yn enwedig gyda lonydd seiclo a chyrchfanoedd arbennig.

"Os ydych chi'n edrych ar Wlad Belg a'r Iseldiroedd mae'r systemau sydd ganddyn nhw yn anhygoel."

Camp Caergrawnt

Mae rhai am weld yr awdurdodau yng Nghymru yn efelychu camp Cyngor Caergrawnt, lle maen nhw wedi gweithio ar gynlluniau i'w gwneud yn haws i feicwyr fynd o gwmpas y ddinas a'i gwneud yn anoddach i yrrwyr fynd i ganol y dre.

Mae un o bob tri o bobl Caergrawnt yn seiclo i'w gwaith o'i gymharu â 4% yng Nghaerdydd.

Mae canran uchel o boblogaeth Caergrawnt yn beicio o ddydd i ddydd, gan cynnwys llawer o deuluoedd. Mae Guto Edwards, sy'n wreiddiol o Gorwen, yn byw yng Nghaergrawnt, ac yn beicio gyda'i feibion.

"Teuluoedd, myfyrwyr, darlithwyr, pobl busnes - mae pawb yn reidio yma," meddai Guto Edwards.

"Dwi wedi byw mewn dinasoedd eraill ac mae'r ffaith fod Caergrawnt yn fflat yn helpu lot.

"Ond ar ben hynny mae llawer iawn o wariant ar adnoddau i'w gwneud yn haws gan gynnwys digon o lefydd parcio i feics, a'r ffaith fod y dre wedi ei chau, mwy neu lai, i geir."

Un swyddog beics sydd yng nghyngor Caerdydd - mae yna 12 swyddog beics yn cynllunio a gwireddu'r gwaith yng Nghaergrawnt.

"Mae nifer o ddinasoedd yn sylwi erbyn hyn bod yn rhaid gwneud rhywbeth am y tagfeydd traffig cynyddol, a chynyddu'r niferoedd sy'n seiclo ydy un ffordd o wella'r sefyllfa," meddai'r cynghorydd Noel Cavanagh, Tsar Beics Caergrawnt.

Deddf Teithio Llesol

Ond mae Cymru ar flaen y gad mewn un ffordd, ar ôl i ddeddf sy'n arloesol i wledydd Prydain - y Ddeddf Teithio Llesol - gael ei sefydlu dair blynedd yn ôl.

Yn ôl y llywodraeth, bwriad y ddeddf ydy gwneud cerdded a seiclo yn weithgareddau naturiol bob dydd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd eu bod nhw wedi clustnodi arian i gefnogi'r bwriad - £11m ar gyfer cynlluniau lleol eleni - a dros £1.5m ar gyfer prosiectau ar briffyrdd.

Mi ddywedon nhw hefyd eu bod yn gwario dros £1.7m ar hyrwyddo a hyfforddiant ar gyfer y cynllun Teithio Llesol. Yn ogystal â hynny, mae gofyn i adran priffyrdd awdurdodau lleol ystyried y ddeddf o'r cychwyn wrth gynllunio.

"Mae'r Ddeddf yn golygu bod awdurdodau lleol yn gorfod gwrando ar bobl sydd am iddyn nhw wella'r rhwydweithiau seiclo neu gerdded yn lleol," meddai Natasha Withey o Sustrans.

"Nawn ni ddim gweld newidiadau oni bai fod yr arian yn dal i gael ei roi iddyn nhw. Mi wnaiff pethau aros yr un fath neu waethygu."

Bydd Manylu ar BBC Radio Cymru ddydd Iau am 12:30pm, gydag ail-ddarllediad am 16:00 ddydd Sul, 30 Tachwedd.Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar yr iPlayer yn dilyn y darllediad.