Cyngor Powys i geisio atal cynllun 'hawl i brynu'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Powys yn bwriadu ceisio atal cynllun 'hawl i brynu' ar gyfer pobl sydd yn byw mewn tai cyngor a thai cymdeithasol.
Fe fydd y cyngor yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael atal y cynllun am y pum mlynedd nesaf.
Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Gâr, Abertawe a Sir y Fflint eisoes wedi cael pwerau tebyg i atal tai cymdeithasol rhag cael eu prynu.
Dywedodd adroddiad wrth gabinet Cyngor Powys y byddai atal y cynllun yn golygu bod yr awdurdod lleol "mewn lle gwell i ateb gofynion tai cymunedau sydd yn heneiddio".
Yn ôl yr adroddiad does dim un o'r wyth cymdeithas dai sydd yn gweithredu ym Mhowys wedi gwerthu unrhyw dai o dan y cynllun 'hawl i brynu' yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ychwanegwyd mai atal y cynllun oedd yr "unig opsiwn sydd yn rhoi rhyddid llwyr i'r awdurdod gynnal, cynyddu a gwella'r stoc dai sydd ei angen er mwyn ateb y galw newidiol yn y blynyddoedd nesaf".
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd9 Medi 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2015