Cyflwyno cynllun gwastraff newydd ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Dim ond dau fag sbwriel du fydd trigolion Pen-y-bont yn gallu ei daflu o'u cartrefi pob bythefnos, o dan newidiadau gan y cyngor sir.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont am gyfyngu casgliadau sbwriel mewn ymgais i arbed arian a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o fagiau du gall pob cartref ei roi allan ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn archwilio'r posibilrwydd o allu defnyddio bagiau mewn gwahanol liwiau i ddangos os yw'r rheolau yn cael eu torri.
Mae disgwyl i'r newidiadau gael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2017.
Bydd cynghorwyr yn trafod y newidiadau yn ystod cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth pan fydd cytundeb saith mlynedd newydd ar gyfer casglu gwastraff yn cael ei ddyfarnu.
Dywedodd adroddiad gan y cyngor ym mis Mawrth eu bod wedi methu â chyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 58% - sy'n golygu y gallen nhw gael dirwy o £200 y dunnell ar gyfer yr holl ddeunydd nad yw wedi'i ailgylchu.
O dan y system newydd gall y cyngor roi rholyn o fagiau penodol i bob cartref, ar gost o tua £147,000 y flwyddyn.