Pennaeth BBC yn addo mwy o gyllid i raglenni Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall, wedi dweud wrth aelodau cynulliad y bydd unrhyw gyllido ychwanegol ar gyfer rhaglenni yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Mawrth 2017.
Fe wnaeth ei sylwadau wrth gael ei holi gan bwyllgor diwylliant y cynulliad.
Dywedodd ei fod yn deall rhwystredigaeth y pwyllgor am yr amser roedd hi'n gymryd i gynyddu'r gwariant ar raglenni teledu Saesneg sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru.
Fe gyfeiriodd yr Arglwydd Hall gyntaf at y gostyngiad mewn rhaglenni dros y degawd diwethaf mewn araith yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2014.
Mewn trafodaeth a oedd yn bigog ar adegau, cyhuddodd yr aelod Llafur, Lee Waters yr Arglwydd Hall o lusgo traed ar y mater: "Gyda phob parch, rydych chi wedi bod yn gwneud sylwadau grymus ers peth amser erbyn hyn.
"Rydych wedi'n harwain i gredu eich bod chi'n deall, ac y byddwch yn gweithredu, ond mi fydd yn bum mlynedd cyn i chi wireddu hyn, ac yn y cyfamser rydych yn cyflwyno £9m o doriadau. Felly, gallwch ddeall ein pryder," meddai.
Wrth ymateb, dywedodd yr Arglwydd Hall: "Gallaf ddeall eich pryder yn iawn, gallaf ddeall eich rhwystredigaeth hefyd. Ond yr hyn rwy'n ddweud wrthoch chi yw y byddwn ni'n gweithredu, rwy' yn deall."
Ond dywedodd Mr Waters fod yr Arglwydd Hall wedi "methu â gweithredu" ar ôl adnabod y broblem ddwy flynedd yn ôl.
Mae disgwyl i siarter newydd, fydd yn amlinellu cyfrifoldebau a chylch gorchwyl y BBC am yr 11 mlynedd nesa, gael ei arwyddo'n ddiweddarach y mis hwn.
Bydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd BBC Cymru gynlluniau ailstrwythuro er mwyn arbed £9m erbyn 2022.
Cadarnhaodd yr Arglwydd Hall y bydd yn cadw at yr addewid i gynyddu'r gyllideb ar gyfer peth rhaglennu yng Nghymru, ond na fyddai'r cynlluniau'n cael eu cyhoeddi tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
"Dim ond i Gymru y gwnes i ymrwymiad i ddarparu arian ychwanegol, a hynny ar gyfer rhaglenni Saesneg.
"Dydy'r setliad (ffi'r drwydded) ddim yn setliad o gyfoeth mawr. Rhaid i ni reoli'n harian yn ofalus iawn, ond y peth da yw bod yna beth sicrwydd am ein hariannu," meddai.