Morlyn Abertawe: Cyfle rhy dda i golli, neu rhy ddrud?

  • Cyhoeddwyd
MorlunFfynhonnell y llun, TLP

Mae'r cynllun i adeiladu morlyn ym Mae Abertawe yn addo swyddi a buddsoddiad yn ogystal ag ynni glan am ganrif a mwy.

Byddai hynny'n hwb, yn ôl y datblygwyr, i'r economi yn ogystal â'r amgylchedd.

Mae Tidal Lagoon Power (TLP) wrthi'n aros yn eiddgar am gasgliad ymchwiliad annibynnol, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Prydain, ynglŷn ag ymarferoldeb eu huchelgais.

Yn ôl eu Prif Weithredwr, Mark Shorrock, mae e'n "hyderus" y bydd Charles Hendry, y cyn weinidog dros ynni fu'n arwain yr ymchwiliad, yn ymateb yn gadarnhaol.

Fe fues i'n cwrdd â rhai o'r bobl wnaeth gyfrannu tystiolaeth i'r ymchwiliad er mwyn asesu'r dadleuon economaidd ac amgylcheddol.

Creu diwydiant newydd

Mae TLP yn dweud y bydd morlyn Bae Abertawe'n esgor ar ddiwydiant newydd yng Nghymru gwerth £15bn.

Byddai'r gwaith o ddatblygu, adeiladu a gweithredu'r lagŵn yn gychwyn ar sector ynni a gweithgynhyrchu unigryw, a'r potensial i allforio'r sgiliau a'r profiad fydd wedi'u hennill yng Nghymru ar draws y byd.

Morlyn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech - os yw'r cwmni'n cael eu ffordd.

Y nesa' wedyn yng Nghaerdydd - i'r dwyrain o'r bae presennol - yna Casnewydd, Bae Bridgewater, Bae Colwyn a Gorllewin Cumbria.

Bydd angen yr un sgiliau ar bob safle ond ar raddfa uwch.

Mae'r cwmni'n amcangyfrif y gallai'r pedwar morlyn yng Nghymru gefnogi 33,500 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a dros 3,000 pan fyddan nhw'n gweithredu.

Yn ôl Mr Shorrock, Cymru fyddai pencadlys diwydiant arbenigol yn cynhyrchu ac allforio tyrbinau a'r holl waith peirianyddol fydd ynghlwm â'r morlynnoedd ar draws y byd.

O ran morlyn Abertawe, fe fyddai hynny'n costio oddeutu £1.3bn - gyda'r cwmni'n addo gwario hanner yr arian hwnnw yng Nghymru.

Ydy'r trydan yn rhy ddrud?

Ond ochr arall y geiniog - a'r rheswm pam y comisiynwyd ymchwiliad yn y lle cyntaf - yw pris y trydan fydd yn cael ei gynhyrchu.

Mae gwleidyddion - gan gynnwys y cyn-brif weinidog David Cameron - wedi dadlau ei fod yn ddrud.

Mae TLP yn rhagweld y bydd morlyn Abertawe'n cynhyrchu pŵer am 120 o flynyddoedd ac mae'n gofyn am gytundeb gan Lywodraeth Prydain i sicrhau pris o £89.90 y megawat awr (MWa) dros 90 mlynedd.

Byddai hynny'n llai na'r £92.50 y MWa a gytunwyd ar gyfer atomfa niwclear Hinkley C.

Dadl TLP yw y bydd y lagŵns ddaw ar ôl Abertawe yn fwy o faint ac yn fwy cost-effeithiol.

Maen nhw hefyd yn dweud bod morlynnoedd yn debygol o bara'n hirach nag atomfeydd a ffermydd gwynt - gan olygu y bydden nhw'n parhau i gynhyrchu trydan ymhell ar ôl i unrhyw gymhorthdal gan y llywodraeth ddod i ben.

Lleisiau economaidd

ANDY REAGAN - ARBENIGWYR YNNI - CYNGOR AR BOPETH CYMRU

Mae'r corff Cyngor ar Bopeth yn bryderus ynglŷn â'r cynlluniau.

Eu dadl nhw yw y gallai cynnig cymhorthdal sylweddol i'r lagŵns olygu tynnu arian oddi wrth brosiectau ynni adnewyddadwy eraill sydd eisoes wedi profi'u gwerth.

Yn ôl Andy Reagan, os yw'r ddadl dros forlyn Abertawe yn un economaidd, a hynny ynglŷn â chreu swyddi, yna dylai'r gost ddod o drethi'r llywodraeth yn hytrach na biliau ynni cwsmeriaid.

"Mae'r cymorthdaliadau ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn dod o bot sefydlog - sy'n cael ei gasglu o filiau ynni pobl," meddai.

"Ry'n ni angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y mwya' posib gyda'r arian y mae cwsmeriaid yn ei dalu o ran lleihau allyriadau carbon."

DAVID CLUBB - CYFARWYDDWR, RENEWABLE UK CYMRU

Disgrifiad,

Mae David Clubb yn cefnogi'r cynllun

Yn ôl David Clubb mae morlyn Abertawe'n gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth, unwaith mewn canrif". Mae angen gweledigaeth debyg i'r hyn oedd gan arloeswyr isadeiledd Oes Fictoria fel Brunel, meddai.

"Mae'n ormod o gyfle i'w golli, nid dim ond ar gyfer Abertawe ond hefyd Caerdydd, Casnewydd a'r holl ardaloedd hynny o amddifadedd yn y Cymoedd, yn ogystal â'r holl ynni gwyrdd a fydd yn cael ei gynhyrchu i helpu'r blaned."

Sgil-effaith ar yr amgylchedd

Mae sefydlu pwerdy ynni llanw'r cynta'r byd ym Mae Abertawe yn syniad sy'n ennyn croeso brwd gan nifer fawr o grwpiau amgylcheddol.

Byddai'r morlyn yn cynhyrchu digon o ynni glan o'r llanw a'r trai i gyflenwi 11% o anghenion trydan Cymru.

Gallai hynny arbed rhyw 236,000 o dunelli o garbon rhag cael ei allyrru i'r atmosffer bob blwyddyn, gan roi hwb i ymdrechion i daclo newid hinsawdd.

Mae'n eironig felly taw ateb pryderon amgylcheddol o bosib fydd yr her fawr nesa' i wynebu'r cynllun.

Er bod caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau, mae TLP yn dal i aros am drwydded forol gan y corff sy'n gyfrifol am yr amgylchedd - Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi wynebu "blwyddyn flinedig o sgriwtini" ynglŷn ag effaith posib y datblygiad ar bysgod.

Mae goblygiadau'r morlyn o ran adar, mamaliaid morol, a chreaduriaid bychain sy'n byw yn y tywod ym Mae Abertawe a'r afonydd sy'n llifo iddo hefyd dan ystyriaeth.

Gyda phum lagŵn arall ar y gorwel hefyd - yn aber yr afon Hafren, yng Ngogledd Cymru a Cumbria, mae 'na rai sy'n dadlau y dylai sgil-effeithiau amgylcheddol yr holl forluniau gael eu trafod cyn i'r cynta' dderbyn caniatâd.

Addo gwella'r amgylchedd o amgylch eu morlynnoedd mae TLP - gan gynnig miliynau o bunnau er mwyn gwneud hynny.

Maen nhw wedi cyflogi rhai o arbenigwyr amlyca'r Deyrnas Unedig i archwilio'r sgil-effaith posib ar bysgod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, medden nhw, gan ddod i'r casgliad na fydd hynny yn sylweddol.

"Y pwynt allweddol yn hyn oll," yn ôl Mr Shorrock, Prif Weithredwr TLP, "yw nad yw'r morlyniau wir yn effeithio ar fyd natur."

Lleisiau amgylcheddol

PETER MORRIS, YMDDIRIEDOLAETH ADAR Y GWLYPTIR (WWT)

Mae gan y WWT warchodfa natur yn Llanelli ond mae'r pencadlys yn Slimbridge ar aber yr afon Hafren, sydd yn ôl Mr Morris "fel gwasanaethau traffordd enfawr" ar gyfer adar sy'n mudo o Affrica a'r Arctig.

Mae'r corff, medde fe, yn "gyffrous iawn ond yn wyliadwrus hefyd" ynglŷn â'r cynllun i adeiladu morlyn yn Abertawe.

"Mae angen lot o ynni gwyrdd, adnewyddadwy arnon ni," meddai.

"Mae'r llanw yn aber yr Afon Hafren ymysg y mwyaf pwerus yn y byd - os y'ch chi'n mynd i adeiladu pwerdy llanw lle gwell nag yn fan hyn?"

Mae e'n credu y gallai'r prosiect yn Abertawe esgor ar chwyldro ynni adnewyddol allai'n hachub ni o gynhesu byd eang.

Ond fe allai fod "yn drychineb amgylcheddol" petai'n cael ei reoli yn y ffordd anghywir.

Am y rheswm hynny mae'r WWT yn awyddus i weld y lagŵns yn cael eu datblygu yn araf, dros gyfnod o wyth mlynedd o leiaf, fel bod cyfle i fonitro'r effaith ar bysgod, adar a bywyd gwyllt yn ofalus.

RHYS LLYWELYN, LLYWYDD CYMDEITHAS PYSGOTA EOG A BRITHYLL CYMRU

Disgrifiad,

Mae Rhys Llywelyn yn pryderu am yr effaith ar bysgod

Mae'r corff sy'n cynrychioli clybiau pysgota ar hyd yr afonydd Tawe, Nedd ac Afan, yn ogystal â'r Afon Hafren yn bell o fod wedi'u hargyhoeddi gan y cynlluniau.

Yn ôl Mr Llywelyn mae'r dechnoleg yn "ddrud" a heb ei brofi, gyda'r modelu amgylcheddol, medde fe, wedi'i selio ar afonydd yn Norwy sy'n wahanol iawn i'r rhai yng Nghymru.

"Bydd y morlyniau yma'n cael effaith andwyol ar stoc pysgod mudol. Mae eog a brithyll môr yn y fantol fel mae hi," meddai.

"Os rhown ni fwy o forlynnoedd mewn maen nhw'n mynd i ladd mwy a mwy o bysgod nes bod y rhywogaethau eiconig yma wedi diflannu yn llwyr yng Nghymru.

"Mae nifer o ffyrdd o gael ynni adnewyddadwy - mae hwn yn un o'r ffyrdd drytaf a dy'n ni ddim yn gwybod pa effaith fydd e'n gael ar yr amgylchedd. Mae isie rhoi stop ar y peth."