Ateb y Galw: Julian Lewis Jones

  • Cyhoeddwyd
julian

Julian Lewis Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Mark Lewis Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Casglu wyau efo fy Yncyl Wil yn Ynys Môn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Dwi'n meddwl mai Ffion Hughes oedd ei henw hi. Ond dwi'n meddwl mai crush cynta i ma'n siŵr oedd Bo Derek yn y ffilm 10.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae'n siŵr yr adeg nes i feddwl bod actores yn feichiog pan doedd hi ddim. Roedd hi braidd yn embarrassed a deud "na jyst tew dwi"...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth ollwng Ieuan y mab yn y Brifysgol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n dipyn o hoarder. Dwi'n cadw petha am rhy hir, gan feddwl y bydde nhw'n dod mewn yn handi. Weithiau ma' nhw yn dod fewn yn handi, ond yn gyffredinol fe ddylwn i daflu mwy o bethau allan.

Julian
Disgrifiad o’r llun,

Julian gyda Clint Eastwood ar set y ffilm 'Invictus'

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

O ran rhywle ysbrydol dwi'n meddwl Moelfre yn Sir Fôn. 'Nes i dreulio lot o amser yna yn pysgota fel plentyn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan enillodd Cymru y Gamp Lawn yn 2005 - y tro cynta ers y 1970au. Ro'n i yn y stadiwm ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Iwerddon ac roedd o'n eitha sbesial.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Dwfn, pen-galed a direidus.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'm yn darllen llawer ar nofelau felly fe dd'weda i Encyclopedia of Bodybuilding gan Arnold Schwarzenegger.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Het Irish eight piece Donegal tweed. Roedd gen i un pan o'n i'n astudio yn y Coleg Cerdd a Drama ond wnes i ei cholli hi. Felly ges i un arall yn ei lle hi yn syth ac mae gen i hi ers 23 neu 24 mlynedd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Neithiwr 'nes i sbio ar Ferris Bueller's Day Off efo'r teulu- mai'n glasur.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Eric Bana.

Dy hoff albwm?

Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band gan y Beatles. Mae'n wych o albwm wedi ei roi at ei gilydd yn dda, ac mae'n mynd a chdi ar siwrna. Mae'n berffaith.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Cranc Aberdaron a sgalops i ddechrau. Yna pysgodyn Stonebass wedi ei ffrio gyda chorizo fel prif gwrs - dwi'n mwynhau ei goginio ond dwi'n meddwl mai ond unwaith dwi wedi'i weld ar fwydlen. I bwdin 'swn i'n cael tarte tatin.

julian
Disgrifiad o’r llun,

Prif gwrs sylweddol iawn!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Donald Trump, ond fel fi. Hynny yw, 'swn i'n rheoli y ffordd mae o'n actio gan newid ei bersonoliaeth yn llwyr.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Emyr Penlan