Cynllun i greu gwarchodfa natur 'ysblennydd' ger Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Minera quarryFfynhonnell y llun, Simon Mills/ North Wales Wildlife Trust

Mae hen chwarel ger Wrecsam yn debygol o gael ei chymryd drosodd gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, er mwyn creu gwarchodfa natur "ysblennydd".

Roedd y lleoliad yn gartref i hen chwarel galchfaen am fwy na 200 mlynedd, cyn i'r gwaith mwyngloddio ddod i ben yn 1994.

Mae'n gartref i gynefinoedd amrywiol, yn cynnwys dolydd blodau gwyllt, a rhannau sydd wedi eu dynodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Bydd perchnogion y safle - cwmni Tarmac, yn cyflwyno'r cynnig ger bron eu bwrdd cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt eu bod yn gweithio gyda Tarmac i ddatblygu'r safle.

Dywedodd Simon Mills, sy'n ymddiriedolwr gyda'r elusen bywyd gwyllt: "Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Tarmac ers nifer o flynyddoedd am y posibilrwydd o drosglwyddo perchnogaeth y chwarel i'r ymddiriedolaeth, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd yn fuan."

Dywedodd Lloyd McInally, rheolwr ystadau ac eiddo Tarmac, fod y cwmni'n teimlo mai'r ymddiriedolaeth yw'r "sefydliad gorau i wella'r safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae'r safle hefyd yn gartref i rwydwaith o ogofâu a thwneli.