Ymweliad i hybu cyswllt Blaenau Ffestiniog a Phatagonia
- Cyhoeddwyd

Patricia Harris (chwith) a'i ffrind Marisa Conde yn ymweld ag Ogofau Llechwedd yn ystod eu hymweliad
Mae disgynnydd rhai o'r Cymry cyntaf i setlo ym Mhatagonia wedi ymweld â thref ei chyn-deidiau, fel rhan o gynllun gefeillio.
Fe deithiodd Patricia Alejandra Lorenzo Harris o dref Rawson yn y Wladfa i Flaenau Ffestiniog, a hynny flwyddyn ers i'r ddwy dref greu cysylltiad fel rhan o'r dathliadau 150 mlynedd.
Dywedodd ei bod hi'n "freuddwyd" gallu ymweld â gwlad enedigol ei hen daid.
Y flwyddyn nesaf fe fydd grant ar gael i rywun o Flaenau Ffestiniog allu ymweld â Rawson - prifddinas talaith Chubut, gafodd ei sefydlu gan y Cymry aeth yno.

Ms Harris a'r cynghorydd Annwen Daniels o Gyngor Tref Ffestiniog, fu hefyd yn cynorthwyo â'r gefeillio
Ymysg y rheiny oedd ar y Mimosa, y llong gyntaf i gludo Cymry i Batagonia yn 1865, roedd pump o bobl o Flaenau Ffestiniog.
Cafodd y trefi eu gefeillio llynedd, ac eleni mae Ms Harris, sydd yn hanesydd yn ogystal â bod yn llywydd ar y comisiwn gefeillio, wedi teithio draw gyda'i ffrind Marisa Conde.
"Mae hi wedi bod yn freuddwyd oes i mi ddod i Gymru a gweld y wlad," meddai Ms Harris.
"Pan oeddwn i'n ifanc fe dreuliais i tipyn o amser yn siarad gyda fy nhaid ac fe ddywedodd o fod ei dad o wedi teithio draw o Gymru gyda'i deulu.
"Rydw i'n teimlo dyletswydd i ddod â chyfarchion o'r holl gymuned yn Rawson ac i ailsefydlu'r cyswllt rhwng Rawson a Blaenau Ffestiniog."

Yr ymwelwyr o Batagonia yn cael cip ar Reilffordd Eryri