Tri safle milwrol i gau yng Nghymru mewn cynllun ad-drefnu

  • Cyhoeddwyd
Barics AberhondduFfynhonnell y llun, Derek Harper
Disgrifiad o’r llun,

Mae barics wedi bod yn Aberhonddu ers 1805, yn ôl yr AS lleol

Bydd tri o ganolfannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru yn cau fel rhan o gynllun ad-drefnu adeiladau milwrol.

Dywedodd y Weinyddiaeth y byddai pencadlys y Fyddin yng Nghymru yn Aberhonddu, Powys, storfa Pont Senni, Powys, a Barics Cawdor yn Sir Benfro yn cau.

Bydd Barics Aberhonddu, canolfan 160 Brigâd Cymru, yn cau erbyn 2027.

Mae disgwyl i Farics Cawdor, cartref i'r 14eg Catrawd y Signalau, gau erbyn 2024.

Nid oes safleoedd newydd i'r catrodau fydd yn cael eu heffeithio wedi eu cadarnhau eto.

Daw'r cyhoeddiad fel rhan o gynllun y Weinyddiaeth Amddiffyn i ad-drefnu'r rhwydwaith o adeiladau milwrol.

'Ansicrwydd'

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon wneud y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, gan ddweud y byddai canolfan newydd yn cael ei greu yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Llafur ar amddiffyn, Nia Griffith bod y Weinyddiaeth yn "iawn i ad-drefnu ei 'stâd", ond rhybuddiodd y byddai'n creu "ansicrwydd" i lawer o bobl.

Mae AS Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed, Chris Davies wedi beirniadu'r newid yn Aberhonddu, gan alw'r penderfyniad yn "ffiaidd".

Dywedodd: "Mae gan y llywodraeth nifer fawr o gwestiynau i'w hateb dros pam mae'n bwriadu cau barics hanesyddol a phoblogaidd mewn tref filitaraidd sy'n hanfodol."