'Trydaneiddio am ddigwydd' er gwaethaf oedi yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Tren

Mae dal disgwyl i drenau trydan ddechrau rhedeg o Gaerdydd i Lundain yn 2019 er bod yna oedi ar y gwaith mewn ardaloedd eraill.

Does yna ddim gwaith yn digwydd ar hyn o bryd ar y pedwar llwybr sydd yn gwasanaethu ardal Bryste, Rhydychen a Berkshire.

Ond yn ôl y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y rheilffyrdd, Paul Maynard, fydd yna ddim oedi yng Nghymru ac mae'n dweud y bydd arian ar gael fel bod teithwyr yn cael "buddion ychwanegol".

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan.

Dywedodd ei fod eisiau i "deithwyr yn ne Cymru elwa o'r trydaneiddio i'r eithaf posib".

Mae Network Rail hefyd wedi rhoi sicrwydd y bydd y gwaith trydaneiddio rhwng Llundain a De Cymru yn digwydd.