Corff treftadaeth yn mynd i annog 'mwy o gydweithio'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pryderon ynglŷn â chreu corff treftadaeth newydd yn "ddi-sail".
Yn ôl yr ysgrifennydd economi, Ken Skates fe fydd Cymru Hanesyddol yn annog cydweithio gwell ac yn denu mwy o fuddsoddiad.
Ond mae rhai enwau dylanwadol yn y sector wedi rhybuddio y bydd y corff newydd yn tanseilio annibyniaeth Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Mr Skates wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw'r sefydliadau o dan fygythiad.
"Mae'r pryderon yn rhai di-sail. Dyw hi ddim yn fater o a ddylai sefydliadau aros yn annibynnol, wrth gwrs y dylen nhw.
"Mae'n ymwneud gyda sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd er budd y sector gyfan," meddai.
"Mae angen i ni wneud mwy i wneud ein sefydliadau yn berthnasol i fywydau pobl yn ddyddiol.
"Mae bron yn amhosib gwneud hynny ar ben ein hunain felly os ydyn ni am fod yn gryfach mae'n rhaid i ni fod yn gryfach gyda'n gilydd. Mae hynny yn golygu gweithio gyda'n gilydd i hybu'r asedau anhygoel sydd gennym ni."
Mae grŵp llywio wrthi'n ystyried pa swyddogaethau o Amgueddfa Cymru allith gael eu cyfuno gyda Cadw, corff sydd yn rhan o'r llywodraeth ac yn gyfrifol am gestyll a chofgolofnau.
Maent hefyd yn ystyried cyfuno rhai swyddogaethau gan y Llyfrgell Genedlaethol a Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau, BBC Cymru
Er bod trafodaethau'n parhau am ffurf derfynol Cymru Hanesyddol, mae pwrpas y corff wedi ei ddiffinio'n barod. Drwy greu'r corff newydd, y bwriad ydi uno rhai o elfennau masnachol Cadw gydag elfennau masnachol Amgueddfa Cymru.
Fe allai hyn yn y pen draw effeithio ar rai o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Daw dyfodiad Cymru Hanesyddol yn dilyn astudiaeth gan gwmni PwC ym mis Mawrth 2016 a'i gyhoeddi yn ystod yr haf er mwyn edrych ar ffyrdd o gynyddu refeniw masnachol Cadw - corff sydd dan ofal Llywodraeth Cymru ac sy'n gyfrifol am lawer o gestyll a safleoedd hanesyddol Cymru.
Fe wnaeth yr adroddiad hwnnw nifer o awgrymiadau, o gytundeb lled ffurfiol rhwng Cadw ag Amgueddfa Cymru i uno holl gyrff treftadaeth Cymru.
Mae pwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector treftadaeth ag undebau sy'n cynrychioli staff yn ystyried y meysydd hynny lle gallai'r cyrff gydweithio'n agosach.
Mae cytundeb cyffredinol ymysg y sector y gall mwy o gydweithio fod o fantais, ond mae'r cynllun dan sylw'n un mor ddadleuol gan ei fod yn agor trafodaeth am uno cyrff yn ffurfiol.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru unwaith y bydd y cyrff dan sylw a'r undebau wedi rhoi eu barn. Mae disgwyl i hynny ddigwydd yn 2017, ac yna fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud fod creu Cymru Hanesyddol yn rhan o faniffesto'r blaid ar gyfer etholiad diwethaf y Cynulliad, ac fe ddywedodd gweinidog yr economi fod cydweithio agosach yn hanfodol os yw'r cyrff yn mynd i gynyddu eu llwyddiant masnachol.
Nid oes bygythiad i'r arian cyhoeddus y mae'r cyrff yn ei dderbyn, ond dywed y llywodraeth mai dim ond perthynas gwaith agosach fydd yn creu incwm preifat ac yn cyflwyno delwedd unedig wrth farchnata treftadaeth Cymru i'r byd.
Mae'r rhai sydd wedi dadlau yn erbyn y cynllun yn dweud y byddai unrhyw gorff newydd fydd yn cymryd elfennau i ffwrdd o'r Amgueddfa Genedlaethol yn tanseilio annibyniaeth y corff hwnnw, ac yn ei atal rhag creu incwm masnachol ei hun.
Mae'r Museum Association wedi rhybuddio y gallai unrhyw uno masnachol gael effaith negyddol ehangach ar raglenni arddangosfeydd yr Amgueddfa Genedlaethol, a gallu'r corff hwnnw i greu partneriaethau ag amgueddfeydd lleol ar hyd a lled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod yn ymddwyn mewn dull ymarferol, a'u bod yn awyddus i wrando ar leisiau arbennigwyr a'r cyhoedd cyn sefydlu Cymru Hanesyddol.
Rhybuddio yn erbyn uno mae cyfarwyddwr y Museum Association, Sharon Heal.
Mae'n dweud y byddai unrhyw gyfuno swyddogol yn tanseilio cynhwysedd Amgueddfa Cymru i godi incwm ei hun ac i benderfynu ar arddangosfeydd.
Ychwanegodd: "Mae gan Amgueddfa Cymru enw da ar draws y byd am gydweithio a datblygu partneriaethau ac mae'n gwneud hynny gydag amgueddfeydd lleol, mudiadau rhyngwladol a chymunedau lleol."
Dywedodd hefyd na fyddai rhannau eraill o Brydain yn ystyried sefydlu corff fel Cymru Hanesyddol a bod hyn yn ddigyffelyb.
Maent yn "dathlu annibyniaeth eu sefydliadau cenedlaethol," meddai.
Ond mae Ken Skates yn dweud y bydd mwy o gydweithio yn cynnig mwy o gyfleoedd a'u bod hi'n bwysig bod mwy o bobl yn dod trwy'r drysau.
Doedd o ddim yn fodlon dweud pa swyddogaethau allai gael eu cyfuno: "Mae pedwar opsiwn mae'r grŵp llywio yn edrych arnynt a dw i ddim eisiau gwneud penderfyniad cyn clywed gan y grŵp llywio."
Mae nifer wedi datgan eu gwrthwynebiad wrth bwyllgor diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol, yn eu plith cyn llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.
Mae'n dweud bod yna fygythiad i annibyniaeth y sefydliadau.
"Mae'n bwysig iawn eu bod hyd braich o'r llywodraeth. Beth fydd yn digwydd i'w statws fel elusennau, fel cyrff siarter brenhinol unwaith mae'r newid yma'n digwydd?
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd Cymru Hanesyddol, y math o bwerau fydd ganddo."
Mae disgwyl i'r grŵp llywio wneud ei argymhellion i'r llywodraeth yn gynnar yn 2017 ac fe fydd ymgynghoriad yn hwyrach yn y flwyddyn.