Cyhoeddi enw Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Shan MorganFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Shan Morgan yn dechrau ei swydd yn y flwyddyn newydd

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi mai Shan Morgan fydd Ysgrifennydd Parhaol nesaf Llywodraeth Cymru.

Yr Ysgrifennydd Parhaol sy'n arwain y gwasanaeth sifil yng Nghymru, ac mae'n gyfrifol am reoli cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n £15 biliwn y flwyddyn, ac arwain tua 5,000 o staff sy'n gweithio i'r sefydliad.

Ar hyn o bryd, Shan Morgan yw Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU yn UKRep ym Mrwsel.

Wrth drafod y penodiad, dywedodd y Prif Weinidog: "Pleser o'r mwyaf yw cael cyhoeddi penodiad Shan Morgan fel Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru.

"Mae'n swydd hollbwysig yn y gwaith o gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol ar ran pobl Cymru.

"Mae cael yr arweinyddiaeth iawn ar frig y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru yn hollbwysig, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda hi ar yr agenda strategol hirdymor a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen.

"Er mai mynd i'r afael â'r materion pwysig sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl yw prif ffocws y llywodraeth hon o hyd, bydd profiad helaeth Shan yn y Gwasanaeth Llysgenhadol ac ym Mrwsel hefyd yn gaffaeliad hanfodol wrth i ni bwyso i gael y fargen orau bosib i Gymru yn ystod ac ar ôl ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd."

Cyfweliad

Roedd y broses recriwtio ar gyfer rôl yr Ysgrifennydd Parhaol yn cynnwys cyfweliad panel gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth Gwasanaeth Sifil y DU, Syr Jeremy Heywood, ac uwch gynrychiolwyr o'r llywodraeth ac eraill. Gwnaed y penodiad gan y Prif Weinidog mewn cytundeb â Syr Jeremy Heywood.

Dywedodd Syr Jeremy Heywood: "Hoffwn longyfarch Shan ar gael ei phenodi'n Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

"Mae gan Shan gyfoeth o brofiad hynod berthnasol o'r UE, ac yn rhyngwladol ac ar draws y llywodraeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi fel rhan o uwch dîm rheoli Gwasanaeth Sifil y DU."

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Shan Morgan: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar adeg allweddol yn y gwaith o weithredu'r Rhaglen Lywodraethu 5 mlynedd newydd - "Symud Cymru Ymlaen".

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Prif Weinidog, y Cabinet, swyddogion a rhanddeiliaid ehangach i gyflawni'r ymrwymiadau uchelgeisiol yn y Rhaglen ac i fynd i'r afael â'r heriau o ran hyrwyddo ffyniant a chyfle i bawb yng Nghymru.

"Mae hi wedi bod yn fraint gweithio i'r Gwasanaeth Llysgenhadol mewn pob math o wahanol rolau a chael cyfrannu at ddatblygu perthynas y DU â'r UE dros y blynyddoedd. Er fy mod i'n drist i adael cymaint o ffrindiau a chydweithwyr da ym Mrwsel, rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn fy swydd newydd."

Bydd Ms Morgan yn dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.