Ysgolion Cymru â '£142 i bob disgybl' mewn cronfeydd

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams

Mae'r ysgrifennydd addysg wedi dweud ei bod "wedi synnu" pa mor fawr yw cronfeydd ariannol rhai ysgolion.

Dywedodd Kirsty Williams wrth bwyllgor o ACau bod gan ysgolion gyfanswm o £64m mewn cronfeydd - sydd gyfwerth â "£142 i bob disgybl".

Ychwanegodd mai ei neges i ysgolion sy'n "cadw gafael ar yr arian ar gyfer diwrnod glawog" fyddai ei bod hi'n "bwrw'n barod".

Ond dim ei chyfrifoldeb hi yw hi i "osod lefel genedlaethol" o gronfeydd, meddai, a dylai awdurdodau lleol ddelio â'r mater ar gyfer pob ysgol yn unigol.

Dywedodd llefarydd ar ran gynghorau Cymru eu bod yn "cefnogi ysgolion i ddelio â diffygion a gormodedd ariannol" a'u bod yn "cadw golwg ar lefelau cronfeydd".

'Lefelau uchel iawn'

Tra'n annerch pwyllgor plant a phobl ifanc y Cynulliad, dywedodd Ms Williams: "Mae rhai ysgolion mewn sefyllfaoedd gwahanol, ond roeddwn wedi synnu gweld lefelau uchel iawn o gronfeydd gan rai ysgolion unigol yng Nghymru."

"Yn yr oes yma o gyllidebau heriol rydw i eisiau gwneud yn sicr bod awdurdodau lleol â gafael ar gyllidebau ysgolion a bod yr ysgolion yn gwneud y gorau o'r arian y maen nhw'n ei dderbyn.

"Rwy'n deall y gallai bod yna resymau pam fod ysgolion yn gwarchod y cronfeydd i ariannu prosiectau penodol.

"Ond fy neges yw, os yw pobl yn cadw gafael ar yr arian ar gyfer diwrnod glawog, wel, mae hi'n bwrw'n barod ac rydyn ni angen gwneud y gorau o'r arian yna."

Dirprwyo i ysgolion

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae addysg yn parhau'n flaenoriaeth i awdurdodau lleol ac mae ariannu ysgolion yn fater sy'n cael ei gymryd o ddifrif.

"Yn y blynyddoedd diwethaf mae mwy o ganolbwyntio wedi bod ar gynyddu cyfraddau dirprwyo i ysgolion, gyda phob awdurdod yn gweithio tuag at darged o ddirprwyo 85% o'u cyllideb addysg i ysgolion.

"Yn ystod cyfnod o lymder mae hi'n gall cynnal lefel priodol o gronfeydd, ond mae'n rhaid cydbwyso hyn â sicrhau cymaint o werth â phosib trwy fuddsoddi mewn ysgolion a darparu ar gyfer disgyblion.

"Mae awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion i ddelio â diffygion a gormodedd ariannol a byddwn yn parhau i gadw golwg ar lefelau cronfeydd ysgolion."