"Pob eiliad o bob dydd"

  • Cyhoeddwyd
Sara CrowleyFfynhonnell y llun, Sara Crowley
Disgrifiad o’r llun,

Sara Crowley

Mae dros 177,000 o bobl yng Nghymru wedi cael y diagnosis, ond sut mae byw gyda chlefyd siwgr neu diabetes?

Ymhlith y rhai sy'n byw bob dydd gyda'r cyflwr mae Sara Crowley o Gwm Cynon.

Ar Ddiwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd mae Sara yn rhannu ei phrofiad personol gyda Cymru Fyw o fyw o ddydd i ddydd gyda Math 1 y clefyd.

'Ar fy ffordd i'r ysbyty'

Ar 30 Hydref 1990, ro'n i'n dathlu fy mhenblwydd yn dair oed gyda fy ffrindiau a fy nheulu.

Dridiau yn ddiweddarach sylweddolodd fy Mamgu fod lliw fy wrin 'chydig yn wahanol i'r arfer ac fe aeth fy rhieni â fi i weld meddyg rhag ofn bod rhywbeth o'i le. Cyn pen dim, ro'n i ar y ffordd i'r ysbyty. Fuodd ein bywyd teuluol fyth 'run fath wedyn.

Dyma oedd fy niagnosis Diabetes Math 1.

Doedd dim Google na gwefannau ar y pryd, a doedd gan fy rhieni ddim llawer o syniad beth oedd Diabetes Math 1, oni bai am glywed ambell stori erchyll yn y papurau newydd o bryd i'w gilydd am rywun oedd wedi colli coes i'r cyflwr. Doedd ganddyn nhw ddim syniad chwaith os oedd modd ei drin ac, os oedd yna, sut i wneud hynny.

Ar bapur, mae trin Diabetes Math 1 yn eithaf syml. Mewn gwirionedd mae bywyd gyda Diabetes Math 1 yn gymhleth ac mae'n galed. Mae'n flinedig a does dim amser bant - mae'n rhaid i mi edrych ar ôl y cyflwr pob eiliad o bob dydd, am weddill fy mywyd. Mae llawer o bobl yn dweud wrthai "fyddwn i byth yn gallu chwistrellu fy hun bob dydd"... does gen i ddim dewis, heb chwistrelliadau inswlin, mi fyswn i'n marw.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma i chi syniad o'r offer sydd ei angen ar Sara i gadw'r clefyd dan reolaeth

Cwympo mas 'da'r cyflwr

Wrth dyfu i fyny, dwi'n ddiolchgar iawn o'r cymorth ges i gan fy rhieni a gan fy athrawon yn Ysgol Gynradd Abercynon ac Ysgol Gyfun Rhydywaun. Wnaethon nhw ddim fy nhrin yn wahanol i unrhyw un arall yn y dosbarth a diolch byth am hynny.

Roedd pawb yn fy annog i gyfrannu tuag at bob agwedd o weithgareddau allgyrsiol - eisteddfodau, chwaraeon, teithiau ysgol, gwyliau tramor a theithiau sgïo. Gadawais Ysgol Gyfun Rhydywaun fel Dirprwy Prif Ferch, ac fe wnes i gymhwyso i fod yn athrawes yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin er i mi gwympo mas sawl gwaith gyda'r cyflwr tra oeddwn i'n fyfyrwraig!

Er bod byw gyda Math 1 yn golygu bod rhaid i mi roi ychydig mwy o ymdrech mewn i drefnu a pharatoi pethau, dydw i ddim ac fyddai byth yn gadael i'r cyflwr fy rhwystro rhag gwneud y pethau dwi eisiau eu gwneud.

Mae gen i restr bwced hir, dwi'n dwli ar deithio, dwi wedi gweld 18 gwlad hyd yn hyn, gan gynnwys teithio i Awstralia ar ben fy hun. Dwi'n mwynhau ac yn ddiolchgar am fy mywyd. Rwy'n deall gall hyn newid ar unrhyw adeg, ond fyddai ddim yn byw mewn ofn chwaith.

Ffynhonnell y llun, Sara Crowley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara yn gallu byw bywyd i'r eithaf er gwaetha'r cyflwr

Cywiro'r penawdau

Mae'r gair diabetes yn y penawdau o hyd, yn aml, am resymau negyddol gydag awgrym bod ffordd rhywun o fyw neu fwyta gormod o siwgr wedi arwain at y diagnosis.

Mae'r negeseuon yn y penawdau yma fel arfer yn anghywir. Dau gyflwr gwahanol yw Math 1 a Math 2 o ddiabetes ac mae mor bwysig i wahaniaethu rhwng y ddau. Mae Math 1 yn auto-immune disease pan nad yw'r pancreas yn gallu creu inswlin. Mae'n hormon angenrheidiol i dorri lawr glwcos yn y gwaed ac felly does 'na ddim modd i'r rhai sydd wedi cael y diagnosis reoli lefel siwgr yn y gwaed.

Mae angen i bobl sy'n byw gyda Math 1 chwistrellu eu hunain gydag inswlin neu ddefnyddio pwmp inswlin. Mae angen iddyn nhw hefyd brofi lefel y gwaed hyd at wyth gwaith y dydd.

Mae diagnosis Math 1 yn fwy cyffredin mewn pobl o dan 40. Mae pobl sydd yn byw gyda Math 2, yn dal i fedru cynhyrchu inswlin, ond mae'n anodd i'r corff gynhyrchu digon, neu ei bod hi'n anodd defnyddio'r inswlin. Yn yr achosion yma mae'n rhaid iddyn nhw gymryd moddion, gan amlaf, ar ffurf tabled i'w helpu gyda'r broses.

Mae'n bwysig hefyd bod unrhyw un sydd â diabetes yn monitro faint o garbohydradau maen nhw yn eu bwyta e.e. mewn bara, pasta a reis yn ogystal â bwydydd melys.

Rydw i hefyd yn gorfod rheoli'r diabetes i leihau'r risg o ddatblygu cymhlethdodau hir dymor i organau a rhannau eraill y corff. Dwi nawr wedi bod yn byw gyda Math 1 am dros 26 mlynedd, ac mae'r cymhlethdodau wedi dechrau. Pan ro'n i yn gorffen fy arholiadau TGAU mi fues i mewn coma a bron i mi farw oherwydd ketoacidosis, sef cyflwr pan mae lefel siwgr y gwaed yn lot rhy uchel dros gyfnod.

Ffynhonnell y llun, Sara Crowley
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Sara ei golwg am 18 mis

Colli golwg

Ddwy flynedd yn ôl fe gollais fy ngolwg am 18 mis oherwydd retinopathy. Roedd y cyfnod yma yn erchyll; nid yn unig wrth fynd yn ddall ond roedd yn rhaid i mi gael triniaeth unwaith bob pythefnos a doedd fy nghyflogwr ar y pryd ddim yn gefnogol o gwbl. Yn y pendraw collais i fy swydd. Roedd hon yn ergyd enfawr i fy iechyd a fy hyder.

Oherwydd hyn, dwi'n benderfynol o helpu i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i helpu pobl ifanc gael y cymorth sydd angen iddyn nhw fyw gyda diabetes.

Mae gen i gyfrif Twitter @Type1Hurdles, dolen allanol ble rwy'n rhannu fy mhrofiadau dyddiol o fyw gyda Math 1 a chael sgyrsiau gyda phobl eraill sydd eisiau gwybodaeth a chyngor.

Ers 2014 'rwy wedi bod yn gwirfoddoli gyda Diabetes UK Cymru. Does dim geiriau i ddisgrifio'r cryfder sydd i'w gael o gwrdd â phobl eraill sydd yn wynebu a gorchfygu'r un heriau.