Dippy'r deinosor ar daith i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
DippyFfynhonnell y llun, NHM

Bydd y deinosor enwog o gyntedd y Natural History Museum yn Llundain yn dod i'r Senedd ym Mae Caerdydd fel rhan o'i daith trwy Brydain.

Mae Dippy'r Diplodocws wedi cael ei arddangos yn yr amgueddfa ers 1905, ond bydd yn cael ei symud ym mis Ionawr 2017, wrth i gynlluniau i drawsnewid y cyntedd fynd rhagddynt.

Mae disgwyl i'r gwaith o'i ddatgymalu a'i baratoi ar gyfer ei daith gymryd blwyddyn.

Ysgerbwd morfil glas fydd yn cymryd ei le yng nghyntedd y Natural History Museum.

Ar ei daith, bydd Dippy yn ymweld ag amgueddfa yn Dorset i ddechrau, cyn symud ymlaen i Birmingham, Ulster, Glasgow, Newcastle, y Cynulliad Cenedlaethol, Rochdale ac eglwys Gadeiriol Norwich.

Y bwriad ar hyn o bryd yw i Dippy ymweld â'r Cynulliad rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020.

Ffynhonnell y llun, NHM
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgerbwd wedi cael ei arddangos yn y Natural History Museum ers 1905

Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones: "Dwi wrth fy modd fod y Natural History Museum yn dod â Dippy i Gymru.

"Bydd yr atyniad yn denu miloedd o bobl i'r Senedd, cartref democratiaeth Cymru.

"Drwy weithio gyda'n partneriaid, byddwn yn darparu profiadau dysgu unigryw i bobl o bob oed yn ymwneud â chynaliadwyedd a gwyddoniaeth.

"Byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd pellach i'n hymwelwyr drafod gorffennol Cymru a'i phresennol, a chyfle i bobl gael dweud eu dweud am ddyfodol y genedl."