Gwely, gwely hen blant bach

  • Cyhoeddwyd
gwelyFfynhonnell y llun, Thinkstock

Pa mor aml fyddwch chi'n edrych ar eich ffôn? Fyddwch chi'n edrych arno yn y gwely?

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio'r effaith y mae ffonau symudol yn ei gael ar batrymau cwsg, gan edrych yn benodol ar yr effaith ar blant.

Roedd yna gyfanswm o 17 astudiaeth ac roedd 125,000 o blant ar draws y byd yn rhan o'r gwaith ymchwil cyfan.

Dr Ben Carter oedd yn arwain yr ymchwil:

"Roedden ni am weld nid yn unig beth oedd effaith defnyddio'r ffonau, ond hefyd edrych ar yr effaith mae cael mynediad i'r ffonau yn ei gael.

"Mewn astudiaethau mawr mae'n gallu bod yn anodd cael canlyniadau cadarn gan bod agweddau gwahanol yn cael eu dadansoddi. Roedden ni'n edrych ar draws yr 17 astudiaeth a chwilio am bethau oedd yn gyffredin a phatrymau o fewn sampl mor enfawr o blant.

"Edrychon ni ar batrymau cysgu plant oedd yn defnyddio eu ffonau neu dabledi o fewn awr a hanner iddyn nhw fynd i'r gwely, ac yna eu cymharu gyda phlant oedd heb eu ffonau cyn mynd i'r gwely.

"Mae 'na agweddau gwych i'r dyfeisiau yma, maen nhw'n ddefnyddiol a dwi ddim yn galw am wahardd ffonau. Ond pan dwi'n clywed am bobl yn defnyddio aps i fonitro'r ffordd maen nhw'n cysgu a defnyddio eu ffonau fel clociau 'larwm, mae'n fy llenwi i ag ofn. 'Da ni'n mynd lawr llwybr lle 'dan ni'n cael ein rheoli gan y dyfeisiadau 'ma" meddai'r Dr Carter.

Daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad bod y plant a oedd yn defnyddio'r teclynnau cyn mynd i'r gwely ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu patrymau cysgu sâl. Hynny ydy eu bod yn dueddol o gael llai o gwsg, bod y cwsg hwnnw yn tueddu o fod o ansawdd gwael a'u bod yn fwy blinedig y diwrnod wedyn.

Ffynhonnell y llun, Ben Carter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Ben Carter yn credu y gall plant ddatblygu yn fwy effeithiol trwy hepgor eu teclynnau digidol cyn mynd i'r gwely

Yn gaeth i'r dyfeisiau

Mae Dr Carter yn dadlau mai nid defnydd o ffonau yw'r unig beth sy'n achosi canlyniadau negyddol.

"Mi wnaethon ni hefyd astudiaeth gyda phlant a oedd gyda'r ffôn wrth eu hymyl, ond ddim yn eu defnyddio, tra roedden nhw yn trio cysgu.

"Mae pobl yn dadlau bod arferion cysgu sâl yn digwydd oherwydd blue light emission, ac ymbelydredd. Ond wrth gwrs pan dyw'r ddyfais ddim yn cael ei ddefnyddio, does dim light emission. Felly presenoldeb y ddyfais sy'n cael ei ystyried.

"Fe wnaethon ni ddarganfod bod y risg o batrymau cysgu sâl yn cynyddu, sy'n awgrymu bod yna ffactor ar wahân i light emission yn effeithio ar gwsg y plant.

"Rwy'n credu bod yna fath o cognitive stimulation yn digwydd, a hwnnw yn cael ei yrru gan y cyfryngau cymdeithasol. Dychmygwch bod plentyn yn tecstio neu'n anfon neges gyfrifiadurol i'w ffrindiau cyn amser gwely, yna dwi'n credu y byddai'r plentyn hwnnw yn ei chael hi'n anodd gorffwys a mynd i gysgu cyn iddo gael ateb i'w neges. Bydde hynny yn fy marn i yn achosi pryder iddo.

"Gall bwlio seiber fod yn ffactor hefyd, neu'r ofn o golli rhywbeth - mae'n wir fod rhai bobl yn gaeth i'w ffonau a'u dyfeisiau. Ychydig iawn o sylw sy'n cael ei roi i effeithiau negatif y dyfeisiau yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant yr oes hon yn or-ddibynnol ar declynnau digidol medd y Dr Carter

"Rhaid i bethau newid"

Mae'r Dr Carter yn credu bod angen help rhieni ac athrawon i newid agweddau tuag at y teclynnau digidol fel bod plant yn llai blinedig ac i hyrwyddo eu datblygiad.

"Mae'n fy nychryn i feddwl bod rhai ysgolion yng Nghaerdydd yn dweud bod angen i'r plant gael ffôn clyfar. Dwi isio gweld gwell ymwybyddiaeth ynglŷn â phatrymau cysgu sâl, a'r angen i gysgu yn iawn er lles datblygiad plant.

"Rwy' hefyd eisiau strategaeth ar lefel ysgol, sir a chenedlaethol er mwyn dysgu plant i adael eu ffonau yn rhywle o'r ffordd rhyw awr a hanner cyn mynd i'r gwely a pheidio â'u cadw yn yr ystafell wely.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Ben Carter am weld yr arferiad yma yn dod i ben

"Rwy'n credu y byddai sesiynau o fewn gwersi Technoleg Gwybodaeth yn ffordd dda o wneud hyn, er bod rhai athrawon wedi dweud wrthai nad y'n nhw eisiau'r cyfrifoldeb am yr hyn mae plant yn ei wneud gyda'u ffonau tu hwnt i furiau'r ysgol."

Mae'r Dr Carter yn argyhoeddedig petai plant yn cael eu darbwyllo i roi eu ffonau o'r neilltu cyn mynd i'r gwely yna y byddai eu datblygiad nhw yn elwa ac y bydden nhw yn llwyddo'n well yn yr ysgol oherwydd eu bod yn fwy effro.

"Does 'na ddim digon o gysylltiad eto rhwng y math o ymchwil ry'n ni wedi ei wneud ac ymchwil feddygol felly dyw effaith y ffonau a thabledi ar ddatblygiad plant ddim yn cael ei drafod ddigon.

"'Dwi wir yn meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar y mater. Mae llawer o'r hyn dwi wedi ei gyflwyno yn eitha' amlwg, ond mae llawer o ddata gen i erbyn hyn i awgrymu bod yn rhaid i bethau newid."