Y Cymry cyntaf yn ymladd yng nghystadleuaeth yr UFC

  • Cyhoeddwyd
Jack Marshman a Brett JohnsFfynhonnell y llun, UFC
Disgrifiad o’r llun,

Jack Marshman a Brett Johns

Bydd y Cymry cyntaf erioed yn ymladd yn yr Ultimate Fighting Championship (UFC) yn Belfast y penwythnos yma, ar ôl i Jack Marshman a Brett Johns arwyddo eu cytundebau cyntaf gyda'r cwmni.

Mae crefftau ymladd cymysg, neu mixed martial arts (MMA) yn fath o ymladd sy'n gweld cystadleuwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys reslo, bocsio, karate a jiwdo.

Yr UFC yw prif gystadleuaeth MMA y byd, ac mae bellach werth mwy na £3bn.

Marshman, 26 oed o Abertyleri yn Sir Fynwy, oedd y Cymro cyntaf i ymuno â'r UFC pan arwyddodd gytundeb fis diwethaf ar gyfer pedair gornest.

Fe wnaeth Johns, 24 oed o Abertawe, sydd â record berffaith o 12 buddugoliaeth yn ei yrfa broffesiynol hyd yn hyn, arwyddo ei gytundeb cyntaf dechrau mis Tachwedd.

Bydd Marshman yn cwffio yn erbyn Magnus Cedenblad o Sweden yn Belfast, tra bo Johns yn herio cystadleuydd arall di-guro, Kwan Ho Kwak o Dde Korea.

Disgrifiad,

Bu Brett Johns yn siarad gyda BBC Cymru cyn y noson fawr yn yr SSE Arena