Troi poen yn fywoliaeth
- Cyhoeddwyd
Ar ôl byw am flynyddoedd mewn poen enbyd, mae dyn o Gastell Newydd Emlyn wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr.
Daw Meni Farkash o Israel yn wreiddiol, ond mae'n byw erbyn hyn yng ngorllewin Cymru gyda'i wraig a'i ddau o blant.
Ond fe ddysgodd i ymarfer ioga - ac ers hynny, dydy e ddim wedi troi yn ôl. Erbyn hyn mae ganddo nifer o ddosbarthiadau ioga ar hyd a lled y gorllewin. Bu'n dweud ei stori wrth Cymru Fyw.
'Mor anhapus'
"Ro'n i mewn poen erchyll ar ôl cael anaf ar fy nghefn pan o'n i'n 18 oed, do'n i ddim yn gwybod lle i droi. Roedd y boen yn rheoli fy mywyd," meddai.
"Wnes i drio cymaint o bethau er mwyn trio lleddfu'r boen, yn cynnwys therapi tylino, chiropractor, aciwbigo - bach o bopeth. Unrhyw beth er mwyn trio helpu.
"Ro'n i'n teimlo'n llesg, a ro'n i'n rhwystredig iawn. Ro'n i'n ifanc, a dylen i fod yn sionc ac yn abl ond do'n i ddim. Roedd fy nghefn yn rhwystr - do'n i ddim yn gallu gwneud cymaint o bethau.
"Do'n i ddim yn gallu sefyll am amser hir, methu eistedd am amser hir na chwaith gorwedd am amser hir. Roedd e mor anodd i ddelio gyda'r boen, doedd e ddim yn teimlo'n gywir."
Mae'n cyfaddef ei fod yn teimlo'n wan yn feddyliol hefyd, oherwydd roedd yr holl boen corfforol yn mynd yn drech nag e.
"Roeddwn i dan gymaint o straen a ro'n i mor anhapus," meddai Meni.
Edrych ar ôl ei hun
Ers ymweld â stiwdio ioga, ag yntau mewn stad anobeithiol oherwydd y boen, cafodd sioc o'r ochr orau, meddai, ar ôl gweld gwahaniaeth mawr.
Teimlodd ychydig o ryddhad o'r diwedd, a wnaeth hynny arwain at ansawdd byw dipyn gwell na beth oedd ganddo yn sgil y boen.
"Y peth pwysig i gofio gyda ioga, yw eich bod chi'n gwneud pob dim eich hunan. Chi sy'n gorfod gwneud y gwaith. Yn wahanol i gael eich tylino neu gael triniaeth aciwbigo - rhywun arall sy'n gwneud hynny drosoch chi.
"Chi'n dysgu sut i edrych ar ôl eich hun, chi'n dod i ddeall sut mae'ch corff yn gweithio, ac yn dysgu sut i ddal eich hun yn gywir, er mwyn osgoi straen ar y cefn, a lleihau poen.
"I fi, roedd hyn yn breakthrough ar ôl byw mewn poen ofnadwy."
Wrth reswm, doedd e ddim yn hud a lledrith, mae'n cyfaddef. Cam wrth gam oedd cyrraedd y nod, meddai.
"Alla i ddim dweud bod fy mhoenau wedi diflannu dros nos. Roedd hi'n fater o weithio'n galed am fisoedd wrth ymarfer ioga. Dim ond wedyn wnes i wirioneddol gweld gwahaniaeth yn lefel y boen.
"Ro'n i fel dyn newydd, ac roedd fy iechyd meddwl i'n well hefyd - roedd y ioga wedi rhoi nerth o'r newydd i fi, a'r stamina, i barhau a gwthio mlaen mewn bywyd ar ôl i'r boen fy rhwystro am gymaint o amser.
"Roedd ioga nid yn unig wedi lleddfu'r boen yn fy nghefn, ond roedd yr holl ymarfer wedi cryfhau fy nghorff i, a ro'n i'n gallu ymdopi gyda gwaith corfforol unwaith yn rhagor."
'Byw er mwyn ioga'
Mae ioga wedi newid ei fywyd yn llwyr, yn ôl Meni, a hynny am y gorau.
"Mae wedi newid y person ifanc o'n i ar y pryd, a oedd yn cael gwaith gwneud llawer o dasgau bob dydd, a fy nhroi i'n unigolyn cryf sy'n gallu gwneud popeth.
"Erbyn hyn, dw i'n byw er mwyn ioga. Dyna sydd ar fy meddwl o fore gwyn tan nos, ac ymarfer ioga yw fy mywoliaeth.
"Dw i fel person wedi datblygu cymaint dros y ddeng mlynedd diwethaf, ac ers rhyw flwyddyn dw i wedi troi at ddysgu ioga'n llawn amser i bobl eraill, a dw i'n cael cymaint o foddhad."
Mae e'n ennill ei grystyn wrth hyfforddi ioga i eraill, ac mae e hefyd yn therapydd ioga erbyn hyn.
"Mae'n gyfle i fi a fy nghleientiaid i daclo problemau iechyd fel cefnau tost, asthma, canser, a materion emosiynol.
"Mae gan ioga fodd o ddelio gyda'r pethau yma. Mae'n gallu cynnig strategaethau i bobl i ymdopi gyda'r heriau yma. I fi, mae cryfder gwneud ioga yn anhygoel. Ers i fi sylweddoli hyn, dw i ddim wedi troi yn ôl."
Mae ei wybodaeth helaeth yn ei alluogi i helpu eraill, meddai.
"Dyw pawb sy'n dod i fy nosbarthiadau ddim yn dioddef o salwch. Mae rhai yn teimlo'n reit iach, ond yn aml iawn efallai bod ganddyn nhw aches and pains, mae hynny'n naturiol i lawer iawn ohonom.
"Dw i'n cael rhai yn dod ata i, ac mae poen wedi cymryd eu bywydau nhw drosodd. Dy'n nhw ddim yn gwybod lle i droi, ac maen nhw wedi trio popeth.
"Os ydych chi mewn poen yn gyson, maen anodd chwalu'r cylch dieflig yna.
"Lle'r oedd hen hippies yn dod i'r dosbarthiadau o'r blaen, mae mwy o bobl sporty yn dod nawr, eisiau gwella ansawdd eu bywydau - a thawelu eu bywydau.
"Mae'n ofid i fi weld pobl yn brwydro drwy fywyd, a thrwy boen. Dw i eisiau dangos bod modd iddyn nhw wella'u bywydau, a darganfod eu hiechyd corfforol a meddyliol drwy ymarfer ioga, a fydd yn arwain at ansawdd bywyd gwell."
Stori: Llinos Dafydd