Datgelu cynllun hamdden ar gyfer parc busnes ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Bryn Cegin

Mae datblygwyr wedi datgelu eu bwriad i adeiladu parc hamdden mewn ystâd fusnes yng Ngwynedd sydd wedi bod yn wag ers dros ddegawd.

Dywedodd y datblygwyr Liberty Properties mai Brexit oedd ar fai am yr oedi "rhwystredig iawn".

Ychwanegodd ei fod yn parhau wedi ymrwymo i adeiladu "parc hamdden o'r safon uchaf" ym Mharc Bryn Cegin ym Mangor.

Ym mis Rhagfyr 2015 fe wnaeth Liberty Properties gyhoeddi cynlluniau i ddatblygu sinema, bwyty a chanolfan twristiaeth ar y safle, gyda'r bwriad o greu hyd at 400 o swyddi.

Dywedodd eu bod nawr mewn trafodaethau manwl gyda chwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu'r sinema.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle wedi bod yn wag ers dros ddegawd

Fe wnaeth y parc busnes dderbyn £3.5m o arian Ewropeaidd a £4.9m gan Awdurdod Datblygu Cymru yn 2005.

Ar y pryd, dywedwyd y byddai'r parc yn denu hyd at 1,600 o swyddi a £18m o fuddsoddiad, ond mae wedi bod yn wag ers hynny.

Mae'r AS a'r AC lleol, Hywel Williams a Sian Gwenllian wedi dweud bod angen gwneud mwy i ddenu buddsoddiad i'r tir fyddai'n parhau'n wag yn dilyn y datblygiad hamdden.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates gadarnhau bod y datblygwyr yn y broses o wneud cais am ganiatâd cynllunio a'u bod yn ceisio sicrhau tenantiaid ar gyfer yr unedau ynddo.