£20m i sefydlu athrofa gweithgynhyrchu yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Airbus
Disgrifiad o’r llun,

Mae Airbus yn cyflogi tua 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £20m i sefydlu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu yng ngogledd Cymru.

Bydd yr arian hwnnw'n ychwanegol at £10m sydd eisoes wedi ei addo gan bartneriaid y prosiect.

Dywedodd y llywodraeth y bydd y ganolfan ymchwil, fydd yn derbyn teitl mwy ffurfiol maes o law, yn canolbwyntio ar sectorau gweithgynhyrchu uwch fel y sectorau awyrofod, moduro, niwclear a bwyd.

Mae cwmni awyrennau Airbus hefyd wedi cadarnhau mai nhw fydd tenant cyntaf y ganolfan newydd.

Fe wnaeth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates gadarnhau'r buddsoddiad ar ymweliad â'r gogledd ddydd Llun.

'Adenydd y Dyfodol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr athrofa yn "helpu i sicrhau rôl fawr i Gymru yn natblygiad a dyluniad technoleg adenydd yn y dyfodol".

Bydd math newydd o adenydd awyrennau yn cael eu datblygu yn y ganolfan, sy'n cael eu galw yn "Adenydd y Dyfodol".

Dywedodd y llywodraeth y bydd y prosiect yn cefnogi gallu Brychdyn i sicrhau mai yno y caiff yr adenydd newydd hyn eu cynhyrchu yn y dyfodol, gan helpu tuag at ddiogelu miloedd o swyddi hyd at 2030.

Mae Airbus yn cyflogi tua 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn.

Bydd yr athrofa yn gweithredu fel un endid, wedi'i rhannu rhwng canolfan ymchwil a datblygu ym Mrychdyn a chyfleuster rhwydweithio, hyfforddiant, gwerthu a marchnata ger Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd Mr Skates: "Yng ngoleuni'r ansicrwydd sy'n wynebu busnesau yn dilyn y bleidlais Brexit, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi eu harloesedd a'u gallu i gystadlu.

"Bydd y cyfleusterau o'r radd flaenaf a ddarperir yn yr athrofa yn rhoi'r manteision hyn i fusnesau mawr a bach ac yn cynnig ased sylweddol o ran denu buddsoddiad newydd."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai'r athrofa cadarnhau gogledd Cymru fel ardal o ragoriaeth ar gyfer y diwydiant cynhyrchu.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych ac yn dangos bod Cymru yn agored i fusnes," meddai.

"Mae arweinwyr yn y diwydiant awyrenau fel Airbus yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y talent a'r sgiliau sydd ar gael yng ngogledd ddwyrain Cymru."