Pabi Caernarfon 'wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed'

  • Cyhoeddwyd
Weeping WindowFfynhonnell y llun, Mike Dean

Mae nifer o fusnesau yng Nghaernarfon wedi dweud nad ydyn nhw'n cofio cael hydref mor brysur erioed, wrth i filoedd o bobl ymweld ag arddangosfa'r pabi coch yng nghastell y dref.

Dywedodd pennaeth Croeso, Cymru, Manon Antoniazzi wrth raglen Y Post Cyntaf BBC Radio Cymru bod nawr angen gwneud mwy i ddenu ymwelwyr i'r castell drwy gydol y flwyddyn.

Cafodd arddangosfa'r 'Weeping Windows' ei chau mewn gwasanaeth ddydd Sul, ar ôl bod yno ers chwe wythnos.

Roedd y cerfluniau o babïau yno i dalu teyrnged i'r 4,000 o Gymry a gollwyd neu anafwyd ym Mrwydr Coed Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe wnaeth yr arddangosfa yng Nghastell Caernarfon ddenu 120,000 o ymwelwyr yn ystod y cyfnod yr oedd hi ar agor.

'Angen gwneud mwy'

Mae Croeso Cymru nawr yn gobeithio y bydd modd cynnal rhagor o ddigwyddiadau allai ddenu ymwelwyr i Gaernarfon yn yn ystod cyfnodau sydd fel arall yn llai prysur.

"Rydyn ni'n sicr yn cytuno bod angen gwneud llawer mwy, ac mi fyddwn ni," meddai Manon Antoniazzi.

"Rydyn ni wedi codi ymwybddiaeth pobl ar draws y byd gyda'r arddangosfa yma - mae dros filiwn o bobl wedi edrych ar luniau o'r arddangosfa ar dudalen Facebook Croeso Cymru er enghraifft."

Dywedodd John Evans, perchennog tafarn y Black Boy nad oedd y busnes erioed wedi bod mor brysur yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Mae'n dangos beth fuasai'r castell yn gallu ei wneud i Gaernarfon drwy gydol y flwyddyn," meddai.

"'Dan ni yn ei ddisgwyl o yn yr haf, ond yr adeg tawel yma yn y gaeaf mae'n siwr y buasen ni'n gallu rhoi mwy yn y castell. Mae 'di codi'r dref i fyny."