Cabinet Gwynedd yn argymell codi treth ar ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
AbersochFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ail gartrefi i'w cael yn Abersoch ym Mhen Llŷn

Mae aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi argymell y dylai'r cyngor llawn gymeradwyo godi treth ychwanegol o 50% ar ail gartrefi a thai gwag o Ebrill 2018 ymlaen.

Mae yna ryw 5,000 o dai o'r fath yng Ngwynedd, y ganran uchaf yng Nghymru, ac yn ôl adroddiad gerbron aelodau'r cabinet, gallai'r newid ddod ag incwm ychwanegol o fwy na £2.5m i'r cyngor.

Byddai'r arian yna ar gael wedyn i gynorthwyo pobol ifanc sy'n ei chael hi'n anodd i brynu tŷ.

Mae'n dilyn esiampl cynghorau eraill ar draws y wlad, sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n codi premiwm ar dreth y cyngor ar gyfer ail dai.

Fe gododd un o bwyllgorau Cyngor Gwynedd bryderon y byddai rhai perchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo fel unedau hunan-ddarpar er mwyn osgoi'r cynnydd tebygol yn nhreth y cyngor.

Dywedodd adroddiad i'r cyngor bod "gwir fygythiad" o hynny, ond ychwanegodd y byddai'r cyngor yn dal i fod ar eu hennill yn ariannol o gynyddu'r dreth.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Un pentre' sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr yw Borth y Gest ger Porthmadog

Ers pasio Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan gynghorau'r hawl i godi premiwm o hyd at 100% ar dreth y cyngor perchnogion ail gartrefi.

Conwy yw'r unig sir hyd yn hyn sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n codi premiwm o 100%.

Drwy gymeradwyo'r cynnydd o 50%, mae Gwynedd yn dilyn esiampl Sir Benfro a Phowys.

Cynnydd o 25% sydd wedi'i gyhoeddi yn Ynys Môn a Cheredigion.