Taliadau bwrdd Chwaraeon Cymru yn 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Dr Paul Thomas, wedi cyhuddo'r sefydliad o wario swm "annerbyniol" o arian ar y Bwrdd.
Dydd Mercher, cyhoeddodd Gweinidog Gwasanaethau Cymdethasol a Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AC, fod gwaith y bwrdd wedi ei atal tan ddiwedd y flwyddyn o leiaf.
Mae'r Dr Thomas - a oruchwyliodd adolygiad beirniadol o'r corff sy'n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru - yn credu na ddylai'r bwrdd gael eu talu, ar wahan i daliadau treuliau.
Mae e nawr yn ceisio atal taliadau aelodau'r bwrdd, ar ôl honni ei fod yn costio £140,000 y flwyddyn.
'Annerbyniol'
"Mae hynny'n annerbyniol mewn cyfnod o gynni ariannol a'r disgwyliadau cynyddol am arbedion a gweithredu," ysgrifennodd Dr Thomas, mewn nodyn preifat sydd wedi ei weld gan Adran Chwaraeon BBC Cymru.
"Rwy'n deall fod y cadeirydd blaenorol wedi cyflwyno'r gost am ei bod yn teimlo y byddai'r bwrdd yn gweithredu'n well petai'r aelodau'n cael eu talu.
"Fodd bynnag, rydym nawr mewn cyfnod gwahanol a mwy heriol.
"Rwy'n awgrymu dod â Chwaraeon Cymru yn ôl i'r un drefn â gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n golygu na ddylai aelodau gael eu talu am fod yn bresennol, ar wahan i'r treuliau arferol."
Mae'n honni mai £126,507 oedd cost swyddogol bwrdd Chwaraeon Cymru am 2015-16, a'i fod wedi codi i dros £140,000 ar ol cyfri costau ac oriau ychwanegol.
Yn ôl dogfennau gan Dr Thomas am y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe dderbyniodd y cadeirydd blaenorol, yr Athro Laura McAllister, £35,183 am ei dyletswyddau, tra bod yr is-gadeirydd, Adele Baumgardt wedi cael £16,172.
Mae'r Dr Thomas yn credu y dylai e a'r is-gadeirydd barhau i dderbyn yr un arian oherwydd eu bod yn ymwneud a'u dyletswyddau o fewn y sefydliad ddeuddydd yr wythnos, ond nododd y bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.
Ond mae'r Dr Thomas eisiau dod â'r diwylliant o dalu aelodau'r bwrdd i ben. Mae'n dweud iddyn nhw dderbyn bron i £7,000 am eu dyletswyddau yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16. Roedd hynny'n cynnwys 17 diwrnod o gyfarfodydd ac unrhyw ddyletswyddau eraill.
Cyflogau 2015-16:
Cadeirydd - £35,183
Is-gadeirydd - £16,172
Aelodau'r Bwrdd x 9 - £6,768 yr un
Y naw aelod ar fwrdd Chwaraeon Cymru ym mlwyddyn ariannol 2016-17 yw Amanda Bennett, Richard Parks, Samar Wafa, Andrew Lycett, Professor John Baylis, Simon Pirotte, Julia Longville, Johanna Sheppard a Peter King.
Mae'r Dr Thomas hefyd yn bwriadu cwtogi'r nifer sydd ar y bwrdd i saith.
"Mae yna achos cryf dros newid y strwythur a chyfansoddiad bwrdd Chwaraeon Cymru," ysgrifennodd.
"Rhaid derbyn nad yw'r hyn sydd wedi gweithio yn y gorffennol yn mynd i gyflawni'r gwaith yn y dyfodol.
"Mae'r sgiliau presennol yn sgiliau mwy traddodiadol sy'n amrywio o gefndir ariannol, i fyrddau llywodraethol, cydraddoldeb a chwaraeon eraill.
"Beth sydd ei angen er mwyn sicrhau strategaeth lefel-uchel i ddelifro yn y dyfodol... yw mwy o wybodaeth a dealltwriaeth lefel-uchel o strategaeth fusnes."
Newidiadau
Bydd y newidiadau arfaethedig, os can nhw sêl bendith Ysgrifennydd Gweinidogol a Chabinet Llywodraeth Cymru, yn dod i rym erbyn 1 Ebrill 2017, gyda holl delerau presennol aelodau'r bwrdd yn dod i ben bryd hynny.
Mae'r adroddiad beirniadol hefyd yn nodi bod angen "gwahanu'n glir y pwerau rhwng bwrdd Chwaraeon Cymru a'r Gweithgor."
Ychwanegodd yr adolygiad: "Mae rôl y bwrdd wedi cael llithro'n agored i ymhel â materion gweithredol ac at ymyrraeth uniongyrchol mewn penderfyniadau gweithredol."