Ateb y Galw: Alun Williams

  • Cyhoeddwyd
Alun Williams (chwith) ac Anthony Evans yn ffilmio rhaglen Stwffio o Hong KongFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Alun Williams (chwith) ac Anthony Evans yn ffilmio rhaglen Stwffio o Hong Kong

Y cyflwynydd Alun Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Rhodri Gomer Davies yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mynd i garnifal yn Rhuddlan pan o'n i'n tua tair oed. Y cwbl dwi'n gofio 'di fy mod yn gwisgo rhyw kagool melyn, felly mae'n rhaid oedd hi'n bwrw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pamela Anderson. Oedd genai bosteri ohoni ar wal fy 'stafell a dwi'n cofio doedd Mam ddim yn hapus achos oedd un ohonyn nhw'n eitha' rŵd...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae sawl un o'r rhain. Ond mae 'na un mae pobl yn dal i ofyn i mi amdano, sef cyfweliad wnes i gyda John Toshack pan oedd yn reolwr Cymru. Roedd y cynhyrchydd yn fy nghlust i yn dweud wrtha fi ofyn i Toshack am Tuesday night... ond yr hyn glywis i oedd civil rights.

Felly wnes i ofyn i reolwr Cymru yn fyw ar teledu beth oedd o'n feddwl o civil rights. Atebodd y cwestiwn chware teg iddo, ond cafodd ei ddiswyddo rhyw wythnos yn ddiweddarach - er dwi ddim yn meddwl mai fy nghyfweliad i oedd y rheswm. Dwi'n dal i ddweud mai y cynhyrchydd oedd yn siarad yn anneglur!

Tybed be' oedd barn John Toshack ar hawliau sifil?
Disgrifiad o’r llun,

"Dyn da oedd Martin Luther King"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

10.31am y bore 'ma, pan es i McDonalds a mi 'naethon nhw ddweud mod i'n rhy hwyr i gael sausage and egg Mcmuffin.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gweler uchod, gormod o sausage and egg Mcmuffins.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Hwn ydy'r cwestiwn anodda' i fi. Fel gogleddwr ac yn un o'r ardal, mae Dyffryn Clwyd yn agos iawn i fy nghalon i - mae golygfeydd anhygoel yno.

Ond dwi'n meddwl mai Caerdydd ydy fy ateb i. Wnes i symud yma 15 mlynedd yn ôl, ac heb fod yn rhy gawslyd, fe newidiodd fy mywyd i pan wnes i symud yma.

Fe wnaeth 'na lot o ddrysau agor yn broffesiynol ac yn fy mywyd personol pan symudiais i Gaerdydd - dyma lle wnes i gwrdd â fy ngwraig a fa'ma ydy fy nghartre' bellach.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Heblaw am noson fy mhriodas, byswn i'n dweud 26 Mai, 1999. Y diwrnod hwnnw fe wnaeth Manchester United ennill y treble. O'n i'n gweithio fel rep yn Ibiza ar y pryd. Roedd hi'n noson gynnes, feddwol, briliant. Mae'r gêm yna a'r treble yn fy atgoffa i o gyfnod o fy mywyd i oedd yn llawn hwyl - atgofion melys!

Tymor llwyddiannus Man United - cyfnod da ym mywyd Alun WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tymor llwyddiannus Man United yn 1998/99 - cyfnod da ym mywyd Alun Williams

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hwyl, hapus a hwyr.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi ddim yn ddarllenwr mawr o gwbl. Dwi'n darllen llyfr Roy Keane, The Second Half ac yn ei fwynhau - ond yn amlwg dim digon achos dwi 'di bod yn darllen y llyfr ers tua chwe mis!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

George Best. Bysa fo'n yfed lot a 'sa hi'n noson flêr. Bysa ganddo fo lot o storïau da i'w rhannu.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Trolls. Ffilm hollol rybish - ond eto ffilm i blant ydy o felly mae'n debyg doeddwn i efallai ddim yn fod i'w fwynhau gymaint â hynny.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dweud wrth bawb yn union be dwi'n rili meddwl ohonyn nhw, torri fewn i fanc, a gyda'r arian mynd ar pub crawl masif.

Dy hoff albwm?

Rings Around The World gan y Super Furry Animals.

SFAFfynhonnell y llun, Nick Pickles
Disgrifiad o’r llun,

SFA

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail i ddechrau, wedyn lamb chops, ac arctic roll yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Superman. Mae'n gallu hedfan, gweld drwy waliau ac ar un achlysur aeth o nôl mewn amser!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dyn dwi 'di gweithio lot efo fo'n ddiweddar, Carl Roberts.

alun a carl
Disgrifiad o’r llun,

Alun a Carl tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd