Ffrae dros ddatblygu Ffordd y Brenin yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Y cynllun ar gyfer Ffordd y Brenin, AbertaweFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun ar gyfer Ffordd y Brenin, Abertawe

Mae ffrae wedi codi yn Abertawe ar ôl i Aelod Cynulliad alw ar y cyngor sir i beidio ag oedi'n rhagor cyn ail-ddatblygu ardal Ffordd y Brenin.

Mae AC Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd yn poeni am ddelwedd "llwm" y Kingsway, a'r argraff mae hynny'n ei roi i ymwelwyr.

Mae arweinydd y Cyngor Rob Stewart wedi taro nôl, gan gyhuddo aelod Gorllewin De Cymru o wleidydda gan ei fod yn Aelod Cynulliad heb ddigon i'w wneud.

Ers i'r cyngor sir gymryd rheolaeth o adeilad hen glwb nos Oceana ddwy flynedd yn ôl maen nhw wedi bwriadu dymchwel yr adeilad fel rhan o gynllun i greu ardal fasnach newydd ar Ffordd y Brenin.

Ond ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod yn yr adeilad mae 'na oedi wedi bod yn y broses, gyda'r gost o ddelio â'r broblem yn cynyddu £1.2m i dros £4.8m.

"Mae'r Kingsway'n edrych yn llwm iawn a dweud y gwir, ma' rhyw 20 o siopau wedi cau. Ac mae'r holl edrychiad yn edrych yn llwm iawn, ac wrth gwrs rydyn ni'n ymwybodol o'r oedi 'ma," meddai Dr Dai Lloyd AC.

"Mae 'na arian wedi dod o'r llywodraeth yma yn y Cynulliad i helpu, ac wrth gwrs da ni ishe gweld diwedd ar yr oedi 'ma."

Disgrifiad,

Mae Dr Dai Lloyd am weld ail-ddatblygu ar Ffordd y Brenin Abertawe

'Dim digon i'w wneud'

Mewn ymateb dywedodd arweinydd Cyngor Sir Abertawe Rob Stewart: "Rwy'n meddwl bod yr amserlen ar gyfer Ffordd y Brenin yn rhesymol. Dim ond 11 mis sydd wedi mynd heibio ers i ni gyhoeddi'r cynlluniau'n llawn.

"Dylai'r dymchweliad gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Does 'na'r un datblygiad ar draws y wlad sydd wedi cael ei gyflawni mor sydyn. Rydyn ni'n ceisio gwneud gwerth £4bn o ddatblygu o gwmpas Abertawe.

"Rwy'n credu y bydd sylwadau Dr Lloyd yn cael eu gweld fel gwleidydda gan Aelod Cynulliad heb ddigon i'w wneud.

"Rydyn ni ond yn gallu symud mor sydyn ag y mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ei ganiatáu. Reodd rhaid cael gwaraed ag asbestos allan o'r adeilad ac mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth i ni.

"Hyd yn oed gyda'r broblem ychwanegol, rydyn ni'n mynd i ddymchwel yr adeilad yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac wedyn fe fyddwn ni'n dechrau'r ailadeiladu.

"Mae'r gost o symud yr asbestos wedi cynyddu, ond fe ddylai pobl gofio na thalodd y cyngor unrhyw arian am yr adeilad (hen glwb nos Oceana)."