Cwis: Tat-hŵ?
- Cyhoeddwyd
Mae tatŵs yn mynd yn fwyfwy poblogaidd y dyddiau yma. Dros y penwythnos, bydd cannoedd yn heidio i Venue Cymru, Llandudno i ŵyl fawr Cariad Ink, dolen allanol - gŵyl sy'n dod â llunwyr a charwyr celf corff at ei gilydd.
Mae gan rai o Gymry enwog datŵs hefyd - ond allwch chi adnabod y seren tu ôl i'r celf?


1. Un hawdd i ddechrau... wel, dim ond os ydych chi'n cofio enw un o sioeau byw y comedïwr yma o Gaerfyrddin, sydd bellach ar gof a chadw am byth ar ei ysgwydd.


2. Mae'r cyflwynydd yma i'w weld yn aml ar ein sgriniau yn gwylio pobl yn canu dros Gymru, helpu pobl i briodi ac roedd o'n arfer bod yn ffrindiau agos â Cyw.


3. Ow! Mae'r ddynes yma yn falch o'i Chymreictod, ac yn mwynhau treulio'r p'nawn yn ffair Ynys y Barri gyda'i ffrind gorau Stacey, a'i mab Neil, y babi.


4. Cafodd y goes yma lawer o ddefnydd, a llwyddiant, dros yr haf, gan ei berchennog penfelyn o Gaerffili.


5. Pwy sydd bia'r gŵr bonheddig, barfog yma? Gŵr bonheddig, barfog sy'n DJ, cyflwynydd, actor ac wedi Gadael yr Ugeinfed Ganrif.


6. Mae'r athletwr o Ben-y-bont wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain a Rio... AC mae wedi cael ei dderbyn i'r Orsedd! Artherchog!


7. Ar ôl bod eisiau un ers blynyddoedd, penderfynodd y gantores a'r cyflwynydd yma o Fôn gael tatŵ o angor, fydd bendant yn ddefnyddiol mewn Harbwr Diogel. Ond does Dim Gair ynglŷn â pha mor boenus oedd o...


Cwestiwn bonws: Daeth y ddynes yma yn adnabyddus y llynedd am gael tatŵ yn 94 oed - record byd tybed?