Heddlu'n ymchwilio i achosion cam-drin yn y byd pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
pencadlys heddlu'r gogledd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i adroddiadau o gam-drin rhyw o fewn y byd pêl-droed.

Daw hyn wedi i nifer o gyn bêl-droedwyr ddatgelu o fewn yr wythnosau diwethaf iddyn nhw gael eu cam-drin pan oedden nhw'n blant.

Mae deuddeg o luoedd heddlu eraill ym Mhrydain hefyd yn ymchwilio i honiadau hanesyddol tebyg - Gogledd Sir Efrog, Dorset, Staffordshire, Greater Manchester, Sir Caergrawnt, Sir Hampshire, Sir Gaer, Northumbria, Scotland Yard, Heddlu'r Alban, Norfolk a Sir Essex.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams o Heddlu'r Gogledd: "Gallaf gadarnhau ein bod wedi derbyn nifer o adroddiadau o gam-drin rhyw hanesyddol o fewn y byd pêl-droed.

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r ganolfan genedlaethol, Operation Hydrant, er mwyn sicrhau bod ein hymateb wedi ei gydlynu ac yn effeithiol.

"Mae'r bobl sydd wedi bod yn ddewr i adrodd yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw yn ganolog i'n hystyriaethau.

"Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth rhyw yn blentyn, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â hyn, i'w adrodd i'r heddlu.

"Bydd yr heddlu yn gwrando arnyn nhw, yn eu cymryd o ddifrif, a bydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal."