Newid trefn rhoi organau yng Nghymru yn 'galonogol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Catrin Williams-Jones wedi cael dau drawsblaniad, ac mae'n dweud bod newid rheolau rhoi organau yn 'ffantastig'

Blwyddyn wedi newid chwyldroadol yn y gyfraith rhoi organau, mae'r canlyniadau yn "galonogol" yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Ers 1 Rhagfyr 2015, mae pob oedolyn sydd wedi byw yng Nghymru am dros flwyddyn yn cael ei ystyried yn barod i roi organau, oni bai ei fod yn datgan gwrthwynebiad.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddf o'r fath.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, mae'r ystadegau'n galonogol ac mae'r newid yn y gyfraith wedi bod yn bositif.

6% wedi tynnu'n ôl

System o ganiatâd tybiedig Cymru oedd y cyntaf yn y DU.

Dros y 12 mis diwethaf, mae 160 o organau wedi cael eu trawsblannu, gyda 39 o rheiny drwy ganiatâd tybiedig.

Mae ffigyrau yn dangos bod 6% o bobl sy'n gymwys yng Nghymru wedi penderfynu tynnu'n ôl o'r cynllun.

Er bod nifer rhoddwyr organau yn amrywio'n naturiol, mae Llywodraeth Cymru yn ffyddiog y byddan nhw'n cyrraedd eu nod o gynyddu nifer yr unigolion sydd yn rhoi eu horganau o 25% yn y dyfodol.

'Byw bywyd yn hapus'

Cafodd Catrin Williams-Jones ddau drawsblaniad, yn 1987 a 1998, a dywedodd bod ei bywyd wedi newid yn llwyr ar ôl bod yn "gaeth i'r ysbyty".

"Ma' fe 'di caniatau i fi weithio, priodi, cael plant a jyst bod yn normal," meddai.

"Dim uchelgeisiau enfawr, dwl, ond uchelgais rhywun sydd ynghlwm i'r ysbyty ac sydd ar beiriant arennau, ar y dialysis, yw bod yn iachus a cael byw bywyd yn hapus."

Dywedodd Mr Gething bod newid yn y ddeddfwriaeth wedi bod yn llwyddiant a bod "llawer iawn mwy o ymwybyddiaeth am roi organau" erbyn hyn.

Dywedodd bod "mwy o bobl yn cael trafodaethau gyda'u hanwyliaid ynglŷn â'u dymuniadau" ond bod lle i wella hefyd.

Ychwanegodd bod trafodaethau o'r fath yn ei gwneud hi'n haws i staff meddygol.

Wrth siarad gyda BBC Cymru, esboniodd yr ymgynghorydd Dr Chris Hingston, sy'n arweinydd clinigol ar gyfer rhoi organau:

"Rydyn ni wedi gweld effaith fawr mewn ysbytai o ran teuluoedd yn dod atom ni i ofyn am roi organau, ac mae teuluoedd yn ymwybodol o ddymuniadau eu hanwyliaid.

"Hyd yn oed os maen nhw'n penderfynu peidio rhoi eu horganau, maen nhw'n hyderus mai dyna'r penderfyniad cywir.

"Fel clinigwr, dyna'i gyd roeddwn i eisiau - osgoi ansicrwydd a diffyg penderfyniad fyddai'n achosi anawsterau i deuluoedd."

'Newid agweddau'

Dywedodd yr ymgynghorydd Mike Stephens, sy'n llawfeddyg trawsblaniad bod amrywiaeth yn nifer yr unigolion sy'n rhoi eu horganau yn gwneud dadansoddi'r sefyllfa yn anodd.

Ond roedd yn ffyddiog bod y newid yn y gyfraith wedi cael effaith cadarnhaol.

"Mae hyn am newid agweddau ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny, felly mae'r newid wedi bod yn llwyddiannus," meddai.