Cam-drin: Cyn bêl-droediwr o Wynedd yn sôn am ei brofiadau

  • Cyhoeddwyd
Matthew Monaghan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Monaghan yn siarad â Dylan Jones ar raglen y Post Cyntaf

Mae llinell gymorth a sefydlwyd gan yr NSPCC i gefnogi'r rhai gafodd eu cam-drin fel plant yn y byd pêl-droed wedi derbyn dros 800 o alwadau wythnos yn unig ers ei sefydlu.

Erbyn diwedd wythnos diwethaf - dridiau wedi i'r llinell gael ei hagor - roedd staff yr elusen wedi cyfeirio 60 o achosion i sylw'r heddlu neu wasanaethau plant.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu bellach wedi dweud bod tua 350 o ddioddefwyr wedi adrodd am achosion o gam-drin yn erbyn plant, sydd yn cynnwys ffigyrau'r NPSCC yn ogystal â gwybodaeth sydd wedi dod i law Operation Hydrant.

Mae BBC Cymru wedi yn clywed gan un o'r rhai gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn tra'n chwarae pêl-droed.

Dywedodd Matthew Monaghan, cyn chwaraewr proffeisynol o Ben Llŷn, ei fod wedi peidio â siarad am y peth yn y gorffennol oherwydd ei fod yn ofni y byddai'n brifo aelodau o'i deulu i glywed yr hanes.

Dywedodd ei fod wedi meddwl lladd ei hun ar sawl achlysur oherwydd yr hyn ddigwyddodd iddo.

Disgrifiad,

Matthew Monaghan yn sgwrsio gyda Dylan Jones

Bu'n gapten timau Cymru dan 16 a 18 oed, ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w yrfa wrth iddo dioddef o'r straen wedi iddo gael ei gam-drin.

Bu Mr Monaghan, 41 oed, yn siarad gyda chyflwynydd rhaglen Post Cyntaf Radio Cymru, Dylan Jones.

Dywedodd Mr Monaghan ei fod yn parhau i ddioddef oherwydd yr ymosodiadau arno.

"Dwi ddim yn gallu cysgu. 'Dwi ar tablets ac maen nhw'n helpu gyda'r anxiety a'r panic attacks."