Dwy botel wisgi Cymreig yn gwerthu am £14,500

  • Cyhoeddwyd
PoteliFfynhonnell y llun, Cwmni Peter Francis

Mae dwy botel o wisgi Cymreig 120 oed wedi eu gwerthu am gyfanswm o £14,500 mewn arwerthiant.

Roedd y ddwy botel o Gwmni Distyllfa Wisgi Cymreig yn cael eu gwerthu ar-lein gan gwmni arwerthwyr Peter Francis yng Nghaerfyrddin.

Fe gafodd un botel ei gwerthu am £7,300 a'r llall am £7,200 - gyda'r botel ddrytaf yn mynd i gartref newydd yng Nghymru.

Dywedodd yr arwerthwr Charles Hampshire: "Rydym wrth ein bodd fod llawer o bobl wedi dangos diddordeb - mae'r gwerthiant wedi bod yn hynod lwyddianus."

Cafodd y wisgi ei brynu'n wreiddiol gan fanwerthwr gwin yn Abergwaun yn yr 1960au am £5 y botel. Roedd y poteli wedi bod ym meddiant teulu'r perchennog ers 1914.

Eitemau prin

Dywedodd yr arwerthwr Charles Hampshire: "Mae'n brin iawn cael eitemau fel y rhain, yr unig boteli eraill rydyn ni'n gwybod amdanynt yw'r rhai sy'n cael eu harddangos."

Agorodd Cwmni Distyllfa Wisgi Cymreig (The Welsh Whisky Distillery Company) yn Frongoch, Y Bala yn 1889 ac fe gaeodd ei ddrysau ddechrau'r 20fed ganrif.

Cafodd y ddwy botel, sy'n dyddio'n ôl i oddeutu 1900, eu gwerthu ar wahân.

Fe fydd y perchnogion newydd hefyd yn derbyn y dogfennau papur sy'n dod gyda'r poteli.

Yn ôl yr arwerthwr fe gafodd potel o wisgi tebyg ei gwerthu yng Nghaerdydd yn 2001, ac mae honno yn cael ei harddangos yn nistyllfa wisgi Penderyn. Mae un arall i'w gweld yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Peter Francis