Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards i sefyll lawr
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr o'i swydd ym mis Mai 2017.
Bydd y cynghorydd Plaid Cymru hefyd yn ildio ei sedd ar Gyngor Gwynedd fel cynrychiolydd dros etholaeth Penygroes yn Arfon.
Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2004, gan ddod yn arweinydd y cyngor yn 2008.
Cyn hynny bu'n gyfrifol am addysg fel aelod o Fwrdd Cyngor Gwynedd.
'Braint'
Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll lawr dywedodd Mr Edwards ei bod yn "fraint" cael cynrychioli Penygroes a bod yn arweinydd y cyngor.
"Rwyf o hyd wedi bod o'r safbwynt mai ymroi am gyfnod penodol i'r swydd roeddwn am wneud gan fy mod o'r farn ei fod yn bwysig i wneud cyfraniad penodol am gyfnod penodol ac yna camu i'r neilltu er mwyn rhoi cyfle i eraill wneud cyfraniad," meddai.
"Nid oedd bwriad gennyf i fod yn gynghorydd am oes."
Yn ogystal â'i rôl gyda'r cyngor, mae Mr Edwards hefyd wedi bod yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithredu fel Is-lywydd a llefarydd ar faterion tai a'r iaith Gymraeg.
'Awyrgylch arbennig'
"Mae'r blynyddoedd wedi bod yn rhai cyffrous iawn, yn lleol ac yn genedlaethol," meddai.
"Gyda'r daith ddatganoli yn parhau 'dwi wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau ein bod yn cydweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru yn San Steffan.
"Mae awyrgylch arbennig yn perthyn i Gyngor Gwynedd - mae perthynas braf a rhwydd rhwng aelodau a swyddogion ac er ein gwahaniaethau gwleidyddol mae'r mwyafrif llethol o gynghorwyr yn cytuno ar y blaenoriaethau a'r hyn rydym am gyflawni.
"Yr hyn sydd wedi fy ngyrru ydi fy angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a'r Gymraeg gan weithredu mewn modd sydd yn amlygu'r cysylltiad agos rhwng y ddau.
"Rwyf yn optimistaidd am y dyfodol ac yn obeithiol bydd Gwynedd yn parhau wrth wraidd adeiladu'r Gymru Newydd."