Y Llynges i fuddsoddi £11m ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi i adeiladu cyfleusterau newydd ar gyfer aelodau wrth-gefn y Llynges ym Mae Caerdydd.
Mae'r Llynges Frenhinol yn bwriadu buddsoddi £11m mewn safle fydd yn darparu cyfleusterau hyfforddi modern ar gyfer y lluoedd wrth-gefn am y 50 mlynedd nesaf.
Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) fydd yn gyfrifol am y cynllun, mewn partneriaeth â'r Llynges Frenhinol a'r Associated British Ports, sydd wedi cynnig safle ar brydles tymor hir i'r llynges.
Byddai'r adeilad newydd yn cynnig ystafelloedd ar gyfer hyfforddi, llety, gwasanaethau gweinyddol, a chyfleusterau ar gyfer ffitrwydd a chymdeithasu.
'Buddsoddiad sylweddol'
Mae'r tir sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad ym Mae Caerdydd hefyd yn rhoi mynediad i'r dociau, ble gall llongau rhyfel sy'n ymweld â'r ardal angori.
Byddai tair o unedau'r llynges yn rhannu'r cyfleusterau ar y safle, Uned RNR HMS Cambria, Uned Môr-filwyr wrth-gefn Caerdydd, ac URNU Cymru.
Dywedodd yr Is-gapten Steven Fry, sy'n gyfrifol am uned leol RNR HMS Cambria: "Rydym wedi ein cyffroi'n fawr gan y prosiect hwn.
"Fe fydd y buddsoddiad sylweddol gan y Llynges Frenhinol yng Nghymru yn darparu cyfleoedd ardderchog i'n lluoedd wrth-gefn, ac unrhyw un sy'n dymuno bod yn rhan o'n lluoedd wrth-gefn.
"Mae'r safle yn lleoliad perffaith ar gyfer ein hanghenion, ac yn cynnig cyfle i ni dyfu a ffynnu."
Mae disgwyl i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Byddai'r gwaith adeiladu i ddechrau yn 2017, gyda'r bwriad o'i gwblhau erbyn 2019.