Llywodraeth wedi gwneud elw o £7m drwy werthu eiddo
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud elw o bron i £7m ers 2007 drwy brynu a gwerthu eiddo.
Fe wnaethon nhw elw o £5.7m ar ddatblygiad Number 1 Capital Quarter, Caerdydd, gafodd ei werthu ym mis Ionawr.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC yn dangos eu bod wedi gwneud colled o £2.4m ar 12 datblygiad, ond elwa o £9.3m ar chwe arall.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni'n prynu a gwerthu eiddo a thir fel rhan o'n gwaith i gefnogi'r economi a gwneud iddo dyfu.
"Mae unrhyw elw sy'n dod o hynny yn ein galluogi i ailfuddsoddi yn ein gwaith i gefnogi busnesau ac economïau rhanbarthol ar draws Cymru."
Cynlluniau ffyrdd
O'r 12 darn o eiddo y gwnaeth y llywodraeth golled arnyn nhw, roedd 10 wedi eu prynu ar gyfer cynlluniau ffyrdd.
Dywedodd y llywodraeth bod y fath lefydd yn cael eu cadw cyn hired â sydd ei angen o dan yr amgylchiadau.
Wedi hynny, maen nhw'n cael eu hailbrisio, a'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr adeilad a'r pris gwerthu yw'r elw neu'r golled.
Dywedodd y llywodraeth bod disgwyl i adeiladau hyn fel arfer gael eu gwerthu am bris sydd o leiaf 15% yn is.
Roedd y ddau ddatblygiad arall gafodd eu gwerthu am golled - cyfanswm o £979,000 - yn rhan o gynllun i adeiladu canolfan siopa ym Mhontypridd na ddaeth i olau dydd yn y pendraw.