Galw am gyfraith i reoleiddio llochesau i anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae na alw am sefydlu cyfraith newydd i reoleiddio llochesau i anifeiliaid, yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru.
Bydd rhifyn nos Lun o raglen Week In Week Out yn datgelu safonau gwael mewn canolfan achub anifeiliaid yn y gogledd.
Nid yw llochesau anifeiliaid wedi eu rheoleiddio gan unrhyw gyfraith ar hyn o bryd, sy'n golygu y gall unrhyw un sefydlu canolfan o'r math yma.
Fe wnaeth y rhaglen ffilmio'n gudd yng nghanolfan Capricorn Animal Rescue ger Yr Wyddgrug. Mae'r ganolfan wedi ei beirniadu gan gyn-wirfoddolwyr oedd yn pryderu am safonau lles anifieiliaid yno.
Aeth gwirfoddolwr ar ran y rhaglen i weithio yn y ganolfan am 10 diwrnod. Ar y pryd, dim ond un aelod o staff a llond dwrn o wirfoddolwyr oedd i'w gweld yn gweithio yno.
Corlan
Daeth y rhaglen o hyd i amgylchiadau budr, yn cynnwys yn rhan o'r ganolfan oedd yn gwarchod lles cathod. Yno fe welwyd gwastraff cathod yn gorlenwi padelli gwastraff, a dolur rhydd yr anifeiliaid ar y llawr.
Mewn un achos, ni chafodd corlan ei golchi am dri diwrnod. Mae'r rhaglen hefyd yn dangos enghreifftiau o orlenwi anifeiliaid mewn corlannau, diffyg rheoli heintiau, ac anifeiliaid o bryd i'w gilydd yn methu derbyn digon o ddŵr.
Dywedodd un arbenigwr ar les anifeiliaid fod angen cwestiynu pam fod y lloches yn parhau ar agor.
Dywedodd Claire Lawson, dirprwy gyfarwyddwr yr RSPCA yng Nghymru wrth y rhaglen fod llochesau yn gwneud gwaith da, ond rhybuddiodd fod lleiafrif yn methu a chyrraedd y safonau disgwyliedig:
"Mae'r nifer o lochesau yr ydym yn mynd iddyn nhw yn weddol reolaidd yn awgrymu fod y broblem yn un gymharol ddofn."
Cyfraith
Er bod Cyfraith Lles Anifeiliaid yn rheoleiddio sefydliadau fel bridwyr cŵn, cytiau cadw cŵn dros dro a syrcas, nid yw'r gyfraith honno'n rheoleiddio llochesau anifeiliaid.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd gyda'r grym i gyflwyno deddfwriaeth eilaidd i sicrhau fod y gyfraith yn rheoleiddio llochesau, eu bod yn cydweithio gydag elusennau i ddatblygu cod gwirfoddol i lochesau.
Ond dywed yr RSPCA a'r Aelod Cynulliad Llafur Huw Irranca-Davies nad yw hyn yn ddigon.
Dywedodd Mr Irranca-Davies wrth y rhaglen: "Pryder yr RSPCA ac eraill sy'n gweithio yn y maes yw mai'r rhai da fydd yn dilyn y drefn wirfoddol, ond fydd y rhai sy'n methu ddim yn gwneud hynny. Dyna pam mae angen deddfwriaeth yn sail i hyn."
"Dyma'r hyn yr ydym yn ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru nawr: eich penderfyniad chi yw hyn: gwnewch yr hyn sydd angen ei wneud."
Elusen
Mae Capricorn Animal Rescue yn elusen gofrestredig sy'n cadw tua 350 o anifeiliaid ar ddau safle ger yr Wyddgrug. Yn 2015, fe wnaeth yr elusen dderbyn £250,000 mewn rhoddion ac o'i siopau.
Cafodd y lloches ei sefydlu gan Sheila Stewart - sydd hefyd yn ei rheoli.
Gwrthododd gael ei chyfweld gan raglen Week In Week Out, ond mewn datganiad dywedodd fod y corlannau cathod yn cael eu golchi fwy nag unwaith y dydd a bod yr anifeiliaid yn derbyn gofal.
Ychwanegodd fod honiadau di-sail am ormod o anifeiliaid mewn corlannau wedi eu gwneud dros gyfnod o 18 mis i'r RSPCA, ond doedd dim camau wedi eu cymryd yn erbyn y lloches.
Dywedodd yr RSPCA ei fod wedi bod yn ymwybodol o Capricorn Animal Rescue am "nifer o flynyddoedd" ac mae wedi bod yn gweithio i wella lles yr anifeiliaid dan eu gofal. Ychwanegodd nad oedd modd gwneud unrhyw sylw pellach am resymau cyfreithiol.