Rhagor o ansicrwydd i'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod rhagor o ansicrwydd yn wynebu canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, gyda bar y Cantîn i gau ar ddiwedd y mis a hynny am yr ail waith eleni.
Mae trafodaethau yn parhau gyda'r cyngor i ddod o hyd i fodel busnes cynhaliol, a'r gred yw mai'r rhent o £46,000 y flwyddyn yw'r maen tramgwydd.
Ym mis Awst fe wnaeth Clwb Ifor Bach roi'r gorau i redeg y bar a'r caffi, gan adael Menter Caerdydd yn gyfrifol am y lle.
Fe allai'r bar gael ei hagor dim ond ar gyfer digwyddiadau penodol, megis gemau rygbi rhyngwladol, nes bod partneriaid yn dod o hyd i ateb parhaol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r Hen Lyfrgell wedi cysylltu gyda'r Cyngor ac rydym yn ystyried atebion posib."