Mesur Cymru: Datganoli grym dros beiriannau gamblo
- Cyhoeddwyd
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau newydd i ddelio gyda phroblemau peiriannau gamblo.
Wrth i Fesur Cymru fynd drwy'r Senedd yn San Steffan, mae Llywodraeth y DU nawr yn bwriadu datganoli cyfrifoldeb am beiriannau gamblo lle mae'r arian sy'n cael ei fetio yn fwy na £10.
Daw'r newid yn dilyn gwelliant gafodd ei gynnig gan y Blaid Lafur, ac wedi adolygiad mae Llywodraeth y DU wedi cynnwys fersiwn o'r gwelliant yn y Mesur er mwyn caniatáu i'r grym gael ei ddatganoli.
Gyda thystiolaeth yn dangos bod peiriannau fel hyn yn un o'r dulliau mwyaf caethiwus o gamblo, bydd y pwerau newydd yn galluogi gweinidogion Llywodraeth Cymru i daclo'r broblem ar lefel leol.
Mae hefyd yn dod â Chymru'n gyfartal gyda'r pwerau sydd eisoes gan Senedd y Alban.
Mae peiriannau 'fixed odds', fel maen nhw'n cael eu galw, yn caniatáu i bobl fetio hyd at £100 bob 20 eiliad, sy'n sylweddol fwy na'r mwyafswm o £2 ar beiriannau arferol.
Gan fod y peiriannau yn talu enillion o hyd at £500, maen nhw'n cael eu gweld fel problem fawr i nifer o bobl fregus mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae mwy na 1,500 o'r peiriannau yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Jo Stevens AS: "Mae hon yn fuddugoliaeth bwysig i helpu rheoli gamblo sy'n gallu difetha bywydau.
"Gall gamblo cyfrifol fod yn hwyl ddiniwed, ond mae'r peiriannau yma wedi cael eu cymharu i gocên, ac yn gallu achosi niwed go iawn a pharhaol."