Addysg Gymraeg: Cymeradwyo cynllun Wrecsam er y pryderon

  • Cyhoeddwyd
disgybl

Mae cynllun drafft ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam wedi ei gymeradwyo gan gynghorwyr, er honiadau nad oes digon yn cael ei wneud i gyrraedd y galw ac y bydd rhai plant yn methu allan.

Mae ymgyrchwyr yn honni nad yw'r cyngor yn sylweddoli faint o rieni sydd eisiau'r dewis i addysgu eu plant yn Gymraeg.

Yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), mae'r galw'n golygu bod "pwysau aruthrol" ar y system ysgolion.

Ond yn ôl aelod y cyngor sy'n gyfrifol am addysg, bydd Cynllun Strategol Addysg Gymraeg y sir yn sicrhau bod lleoedd ar gael i bawb sydd eu heisiau.

'Pwysau aruthrol'

Roedd ymgyrchwyr wedi galw ar Gyngor Wrecsam i wneud mwy er mwyn cwrdd â'r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal, gyda rhai'n galw am ystyried agor ail ysgol uwchradd Gymraeg yn y sir.

Nid oedd hynny'n rhan o gynllun strategol drafft y cyngor gafodd ei drafod ddydd Mawrth.

Mae'r cyngor yn dweud bod RhAG yn aelod o'r Fforwm Addysg Gymraeg wnaeth gymeradwyo'r cynllun drafft, gan ychwanegu bod yr awdurdod yn blaenoriaethu darpariaeth Gymraeg.

"Dwi'n teimlo ar hyn o bryd bod y cynllun ddim yn rhoi rhyw fath o strategaeth i symud ymlaen," meddai Rhodri Davies o RhAG.

"Mae 'na bwysau aruthrol ar ysgolion cynradd ar hyn o bryd.

"Er enghraifft, yn 2015 ar gyfer dosbarthiadau derbyn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Wrecsam, dim ond pump lle gwag oedd 'na, sef tua 2%."

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Morgan Llwyd yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg ei hiaith yn Sir Wrecsam ar hyn o bryd

Yn ôl cadeirydd llywodraethwyr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir, Ysgol Morgan Llwyd, mae angen ystyried adeiladu ail ysgol uwchradd i ateb y galw.

"Os ydyn nhw'n dweud ein bod yn mynd i gael mwy o ddarpariaeth yn ystod y pump i 10 mlynedd nesa', mae 'na gwestiwn ar ôl hynny os oes angen ail ysgol uwchradd yn y sir," meddai Aled Roberts.

"Dylai eu bod yn mynd i'r afael â'r problemau hynny rŵan."

'Blaenoriaethu addysg Gymraeg'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam: "Mae RhAG yn un o'r rhanddeiliaid sydd â chynrychiolydd ar Fforwm Addysg Gymraeg y Cyngor, a gymeradwyodd ddrafft presennol y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) ar gyfer ymgynghori.

"Mae swyddogion wedi rhoi sicrwydd i RhAG y bydd adborth o'r broses ymgynghori yn cael ei ystyried cyn i'r CSCA terfynol gael ei gyflwyno.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r ffaith bod y CSCA yn cwmpasu'r cyfnod 2017-2020 a bydd unrhyw gyllid cyfalaf newydd ond yn dod ar gael gan Lywodraeth Cymru o 2019-20 ymlaen.

"Yn y cyfamser, mae Cyngor Wrecsam yn parhau i fod wedi ymrwymo i flaenoriaethu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg."