Argymell peidio ailgysylltu rhan o Lwybr Arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwm Ivy

Mae trigolion pentre' yng ngogledd Penrhyn Gŵyr yn "siomedig" efo argymhelliad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i beidio ag ailgysylltu rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Cafodd wâl fôr hanesyddol yng Nghwm Ivy ar gyrion pentre' Llanmadog ei difrodi mewn storm dair blynedd yn ôl.

Fe agorodd hynny fwlch yn y llwybr ac ers hynny mae'r llanw wedi troi'r tir yn gors.

Mae pobl leol wedi galw ar CNC i adnewyddu'r wal fôr, ond mae'r asiantaeth wedi dweud wrth berchnogion y tir - Cyngor Sir Abertawe - y buase' ailagor yr hen lwybr yn "anymarferol".

Disgrifiad o’r llun,

Randolph Jenkins yn siarad gyda gohebydd y BBC, Rhys Williams

Mae'r penderfyniad wedi gwylltio rhai o drigolion lleol yr ardal.

Fe ddywedodd un ohonyn nhw, Randolph Jenkins: "Mae cymaint o bobl yn cefnogi ailgysylltu'r llwybr, gan gynnwys clybiau cerdded a'r aelod cynulliad lleol, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn y syniad."

Roedd 'na ystyriaeth i adeiladu pont bren fel modd o gysylltu'r llwybr gwreiddiol - ond doedd yr opsiwn ddim yn "gynaliadwy" yn ôl CNC. Awgrym CNC nawr yw adeiladu llwybr newydd yn agosach at y tir mawr ble mae 'na lai o ddŵr.

Fe ddywedodd Hywel Manley o'r asiantaeth: "Rydym yn hapus gyda'n awgrymiadau. Y cyngor sir sydd yn gyfrifol am y llwybr cyhoeddus ac rydym ni wedi cynnig lleoliad arall. Tydi ailgysylltu'r hen lwybr ddim yn ymarferol."

Mae Cyngor Sir Abertawe wedi ymateb drwy ddweud bod nhw'n gweithio gyda nifer o gyrff i geisio datrys y sefyllfa.