Oedi cyflwyno presgripsiynau electronig yn 'rhwystredig'

  • Cyhoeddwyd
PersonFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fwrw ymlaen â dechrau defnyddio system presgripsiwn electronig yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn ôl y corff, dylai cynllun manwl â therfyn amser gael ei gyflwyno i weithredu trefn o'r fath er mwyn gwella diogelwch cleifion.

Mae cynllun cenedlaethol i weithredu system electronig wedi bodoli ers 2007.

Ond mae'r broses o ysgrifennu presgripsiwn yn digwydd ar bapur ym mhob ysbyty yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y bwriad yw sicrhau bod presgripsiynau cleifion yn cael eu trefnu ar gyfrifiaduron erbyn 2023.

Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn datgelu eu bod nhw wedi dod ar draws rhai materion diogelwch oedd wedi eu hachosi gan wybodaeth feddyginiaethau anghyflawn. Roedd y wybodaeth wedi eu cofnodi ar bapur.

Roedd ambell i achos ble roedd gwybodaeth angenrheidiol am alergeddau ar goll, ac achosion eraill ble roedd cofnodion yn aneglur o ran os oedd y claf wedi derbyn eu dos cywir o feddyginiaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Y nod ydy cyflwyno system presgripsiwn electronig erbyn 2023

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Swyddfa Archwilio Cymru, David Thomas, bod sawl aelod o staff a gymerodd rhan yn y gwaith ymchwil yn "teimlo'n rhwystredig" bod gweithredu'r system yn cymryd cyhyd.

Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn gwneud y drefn "llawer yn fwy effeithlon o fewn ysbytai."

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol hefyd yn edrych ar y broses o gymeradwyo meddyginiaethau newydd.

Mae'n dweud bod yna broses genedlaethol lwyddiannus ar gyfer dewis a dethol meddyginiaethau newydd, ond bod tri achos lle roedd penderfyniadau wedi eu gwneud y tu allan i'r broses yna.

Doedd y Swyddfa Archwilio ddim am roi rhagor o fanylion i ni ynglŷn â'r achosion, ond wrth drafod y testun, dywedodd Mr Thomas:

"Doedd hyn ddim yn rhan allweddol o'r archwiliad, ond yn sicr mae yna fecanweithiau cadarn er mwyn cymeradwyo cyffuriau newydd o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sydd wedi gweithredu ers nifer o flynyddoedd.

"Fel rhan o'r archwiliad, fe ddaethon ni ar draws ambell i enghraifft o systemau aeth y tu hwnt i'r drefn yma.

"Mae'r adroddiad yn nodi bod angen rhesymau clir iawn dros wneud hynny, a bod angen i Lywodraeth Cymru esbonio'r sefyllfa i gyrff y Gwasanaeth Iechyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod yna broblemau storio meddyginiaethau a bylchau gwybodaeth

Er bod yr adroddiad yn nodi bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gwella o ran darparu presgripsiynau o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol, mae'r Swyddfa Archwilio yn nodi bod yna le i wella, yn enwedig o ran rheoli meddyginiaethau pan fydd pobl yn symud i mewn ac allan o'r ysbyty.

Yn yr adroddiad, maen nhw'n dweud bod cyrff iechyd yn cydweithio'n dda i wella'r ffordd mae meddyginiaethau'n cael eu rheoli, ac o fewn ysbytai, mae gwasanaethau fferyllol yn gweithio'n effeithlon yn ôl gwaith ymchwil gyda staff eraill o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Er hynny, mae'r cyhoeddiad yn datgan bod problemau gyda storio, a bylchau o ran gwybodaeth am feddyginiaethau.

'Sawl agwedd cadarnhaol'

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod bod sawl agwedd cadarnhaol o ran rheoli meddyginiaethau yng Nghrymu.

Ychwanegon nhw fod y sefyllfa wedi gwella ers i'r Swyddfa Archwilio gynnal eu hymchwiliad, ac fe fyddan nhw'n ystyried argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, bod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn "dangos bod llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau defnydd diogel a chost effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru."