Cymru ar waelod tabl GVA yn dangos cryfder yr economi
- Cyhoeddwyd

Byddai cynhyrchu mwy o nwyddau uchel eu gwerth yn ychwanegu ar GVA Cymru
Mae Cymru ar y gwaelod unwaith eto yn y tabl diweddaraf sydd yn mesur cryfder yr economi mewn gwahanol rannau o'r DU.
Ddydd Iau, fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystagedau y ffigyrau GVA (gross value added) diweddaraf ar gyfer 2015, yn dangos pa mor gynhyrchiol fu gwahanol ranbarthau ar draws Prydain.
Cymru oedd â'r GVA y pen isaf - £18,002 - gyda Gogledd Iwerddon ar £18,584, yr Alban ar £23,685, a Lloegr ar £26,159.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y ffigyrau yn dangos fod pethau'n gwella, ond yn cydnabod fod angen gwneud mwy.
Fe wnaeth GVA Cymru gynyddu o 2.8% rhwng 2014 a 2015, oedd yn fwy nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain ond yn llai na rhai o ranbarthau Lloegr megis y gogledd orllewin.
Ynys Môn a Blaenau Gwent oedd yr ardaloedd yng Nghymru lle roedd yr economi ar ei gwanaf, tra bod y lefelau uchaf i'w gweld yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Roedd Caerdydd hefyd yn wythfed yn y rhestr o GVA y pen ar gyfer dinasoedd y DU.
Swyddi sgiliau is?
Dim ond 4.3% o bobl yng Nghymru sydd yn ddi-waith yn ôl y ffigyrau diweddaraf, ac mae'r canran hwnnw wedi bod yn is na'r cyfartaledd ar draws y DU ers misoedd.
Ond mae ffigyrau GVA yn ystyried beth sydd yn cael ei gynhyrchu gan yr economi, gyda lefelau is yn golygu o bosib nad yw'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn gofyn am sgiliau mor uchel, neu ddim yn cynhyrchu nwyddau o werth uchel.
Mae poblogaeth Cymru tua 5% o gyfanswm y DU, ond mae'r ffigyrau GVA ar gyfer 2015 yn awgrymu ei bod hi wedi cyfrannu tuag at ond 3.3% o'r economi.
Mae'r wlad wedi bod ar waelod y tablau GVA bob blwyddyn ers 1997.
'Darlun gwell'
Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates: "Mae'r ffigyrau GVA diweddaraf yn dangos darlun gwell ar gyfer Cymru, gyda chyfanswm GVA Cymru yn £55.8 biliwn, sydd yn gynnydd o 3% ar y flwyddyn flaenorol ac sy'n cynyddu'n gynt na gweddill y DU.
"Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod GVA y pen wedi cynyddu 2.8% ar ffigyrau 2014 yng Nghymru o gymharu gyda chynnydd o 2.1% ar gyfer gweddill y DU, oedd yn £18,002 y llynedd.
"Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy ac fe fyddwn yn parhau i weithio'n galed i dyfu economi Cymru. Mae datblygiadau fel Tasglu'r Cymoedd, Wylfa Newydd a'n cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn mynd i fod o gymorth i wthio GVA Cymru mewn rhai o gymunedau llai breintiedig Cymru."
Mynnodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fodd bynnag bod y ffigyrau yn galonogol ac yn dangos fod Cymru'n cau'r bwlch â gweddill y DU.
"Mae'r ffigyrau GVA diweddaraf yn dangos mai Cymru yw'r ardal economaidd sydd yn tyfu gyflymaf y pen y tu allan i Lundain," meddai.