Prifysgol Aberystwyth yn penodi is-ganghellor newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi'r Athro Elizabeth Treasure fel eu is-ganghellor newydd.
Bydd yr Athro Treasure yn olynu'r Athro April McMahon, sydd wedi camu o'r neilltu eleni ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Ar hyn o bryd mae hi'n ddirprwy is-ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chyfrifoldeb dros brosiectau ym maes cynllunio strategol, adnoddau a datblygu cynaliadwy yn ogystal â staffio ac ystadau.
"Hoffem longyfarch yr Athro Treasure ar ei phenodiad fel Is-Ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth," meddai Canghellor a Chadeirydd Cyngor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry.
"Gwnaeth argraff ar y pwyllgor dewis gyda'i gweledigaeth strategol ar gyfer dyfodol y sefydliad, ei deallusrwydd a'i didwylledd."
Addewid i ddysgu'r iaith
Dywedodd Elizabeth Treasure y byddai'n gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg yn dilyn ei phenodiad, oedd yn un o ofynion y swydd.
Ychwanegodd Prifysgol Aberystwyth ei bod eisoes wedi dechrau gwersi yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, ac y bydd hi'n mynd ar gwrs iaith cyn dechrau ar ei swydd newydd.
"Mae cael fy mhenodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn anrhydedd ac yn fraint," meddai'r Athro Treasure.
"Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad hir a balch o ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr. Fy nod fydd adeiladu ar y seiliau cadarn hyn, gan weithio gyda'r sector cyhoeddus a busnesau i hyrwyddo ymhellach effaith economaidd ac addysgol y sefydliad.
"Rwy'n ymwybodol iawn o gyfraniad allweddol Aberystwyth tuag at ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac at fywyd diwylliannol Cymru yn gyffredinol.
"Fel yr Is-Ganghellor nesaf, mae dysgu'r iaith i'r safon a nodwyd yn y swydd ddisgrifiad yn flaenoriaeth ac yn fwriad pendant gennyf er mwyn i mi gofleidio pob agwedd ar fywyd Aber."
Dechrau ym mis Ebrill
Wrth ymateb i'r penodiad, dywedodd Rhun Dafydd, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: "Mae UMCA yn fodlon gyda'r penderfyniad i benodi'r Athro Elizabeth Treasure yn is-ganghellor newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Mae UMCA yn teimlo fod y pwyllgor penodi wedi dewis y person mwyaf profiadol i'r swydd ar ôl i'r Athro Treasure weithio fel dirprwy is-ganghellor Prifysgol Caerdydd ers 2010. Mae'r undeb yn falch fod y brifysgol wedi penodi person allanol fydd yn dod a llygaid ffres i Aberystwyth er mwyn helpu'r brifysgol i ymateb mewn ffordd bositif i'r cyfnod heriol sy'n ei wynebu.
"Mae'n gadarnhaol bod yr Athro Treasure wedi addo y bydd hi'n dysgu Cymraeg oherwydd ei fod yn dangos ei hymrwymiad i'r diwylliant ac ethos y brifysgol ond mi fydd angen sicrhau y bydd yn cadw at yr addewid o ddysgu'r iaith."
Dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Lauren Marks: "Rwy'n falch iawn o groesawu'r Athro Treasure yn Is-Ganghellor ar Brifysgol Aberystwyth.
"Rwy'n hyderus y bydd yn arwain Aberystwyth i ddyfodol llwyddiannus ac y bydd yn gweithio'n agos â swyddogion a staff Undeb Myfyrwyr Aberystwyth drwy roi'r myfyrwyr wrth galon Aberystwyth."
Ychwanegodd llefarydd ar ran cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn "drueni" nad oedd yr is-ganghellor newydd yn medru'r iaith yn rhugl, ond eu bod yn "falch iddi ymrwymo i ddysgu'r Gymraeg".
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai'r penodiad newydd hefyd yn gyfle i'r brifysgol ail-ddatgan eu bwriad i ail-agor neuadd breswyl Pantycelyn erbyn 2019.
Cefndir
Fe wnaeth yr Athro Treasure radd BDS mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol ynghyd â doethuriaeth o Brifysgol Birmingham, cyn gweithio mewn swyddi clinigol yn y Gwasanaeth Iechyd.
Rhwng 1990 ac 1995 bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Otago, Seland Newydd, ac yn dilyn sawl rôl gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, cafodd ei phenodi'n Ddeon a Rheolwr Cyffredinol yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol yn 2006.
Mae disgwyl i'r Athro Treasure ddechrau ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2017, ac yn y cyfamser bydd yr Athro John Grattan yn parhau yn is-ganghellor dros dro.