Profiad 'emosiynol' o redeg marathon y mis am flwyddyn er cof am ffrind

Elliot PeaceFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin yn dweud bod cwblhau sialens o redeg marathon bob mis am flwyddyn er cof am ffrind a laddwyd mewn damwain car wedi bod yn brofiad emosiynol.

Rhwng Tachwedd 2024 a mis Tachwedd eleni fe wnaeth Elliott Peace redeg 13 marathon - gan gynnwys sawl un oedd yn bellter marathon ultra.

Roedd yn gwneud y cyfan i godi arian i elusen er cof am ei ffrind a'i frawd yng nghyfraith, Lewis Morgan, fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd ym mis Rhagfyr 2020.

A dywedodd ei fod yn brofiad emosiynol iawn cwblhau'r un olaf un, yn enwedig gan ei fod yn dechrau a gorffen rhedeg wrth ymyl bedd ei gyfaill.

Lewis, Elliot a LloydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Lewis, Elliot a Lloyd, brawd Lewis, ar wyliau yn Cambodia yn 2017

"Nes i ddechre rhedeg yr un ola' o'r bedd yn cemetery Caerfyrddin," meddai Elliot, 30, wrth BBC Cymru Fyw. "Nes i 'neud dau lap o'r cemetery wedyn mynd i bob tŷ roedd Lewis wedi byw ynddyn nhw pan oedd e'n blentyn, oedd yn neis.

"Wedyn wnaethon ni orffen wrth y bedd cyn mynd mas am fwyd gyda'i deulu a chwpwl o drinks i gofio amdano fe.

"Roedd e'n lyfli ond 'nes i erioed feddwl baswn i wedi teimlo fel o'n i - do'n i heb gysidro pa mor emosiynol fyddwn i'n gorffen a mynd reit yn y diwedd at ei fedd. Roedd yn emosiynol, ond roedd yn lyfli 'run pryd."

Bedd Lewis MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bedd Lewis Morgan ar ddiwrnod ola'r sialens, sef lleoliad dechrau a diwedd marathon rhif 13

Dros y flwyddyn fe redodd mewn sawl marathon swyddogol, gan gynnwys yn yr Eidal, yr Amwythig a Manceinion. Fe wnaeth hefyd drefnu llwybrau ei hun oedd yn fwy lleol er mwyn i ffrindiau a theulu ymuno am ran o'r daith.

Meddai: "Daeth cwpwl o fois mas i un ohonyn nhw, o'n i'n 'nabod nhw ond ddim yn dda, ac wrth redeg roedden ni'n siarad am Lewis.

"Roedden nhw'n rhannu straeon am Lewis yn yr ysgol ac yn mynd mas, straeon do'n i ddim wedi clywed, a ro'n i'n dod i adnabod e'n well drwyddyn nhw."

Calendr sy'n rhestru rasys ElliottFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr Eidal, Lloegr, Cymru... calendr o her Elliot

Rhai misoedd fe redodd fwy na'r pellter marathon o 26.2 milltir.

Un mis fe benderfynodd redeg 50 milltir, mewn lapiau o bedair milltir, o gwmpas ei dref enedigol Caerfyrddin rhwng naw y nos a naw y bore - ac mae'n diolch am yr holl gefnogaeth.

"Heb help gan fy stepdad a chwpwl o ffrindiau Lewis fyddwn i ddim wedi gallu 'neud e," eglurodd.

"A tuag at ddiwedd bob run - milltir 22 yn y marathon neu tua'r 50 mile efo'r ultras roedd Lewis yna efo fi, roedd e bob tro yna yn pwsho fi ymlaen."

Elliott wedi blinoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Sut effaith mae rhedeg marathon y mis yn ei gael ar y corff? Yn ôl Elliot yr effaith amlycaf ydi dod yn fwy ffit fesul mis a'r marathon yn mynd yn haws - ond mae'r effaith feddyliol wedi ei synnu.

Ar ôl rhedeg cymaint mewn un diwrnod y peth olaf mae rhywun eisiau ei wneud fel arfer ydi rhedeg eto, meddai, ond nid dyna'r profiad o redeg marathons yn gyson.

"Erbyn tua'r pedwerydd neu'r pumed roedd e jest yn instilled yno fi mod i'n codi yn y bore ac yn mynd am run, falle rhyw 10 milltir. Ma' fe fel bod y corff yn gwybod os o'n i ddim yn 'neud e byddai'r marathon nesaf yn anoddach. Roedd e fel autopilot - roedd e'n od."

Disgrifiad,

Gwyliwch fideo recordiwyd ar ddechrau'r sialens y llynedd, o frawd a brawd yng nghyfraith Lewis yn cofio amdano, ac yn edrych ymlaen at eu her

Mae Elliot hyd yma wedi casglu £5,350 i elusen 2wish, sy'n helpu teuluoedd mewn galar.

Meddai: "Roedden nhw'n brilliant pan wnaeth Lewis farw, yn rhoi counselling sessions i'r teulu a chreu memory box, a ma' 'da nhw bereavement rooms mewn ysbytai. Maen nhw'n absolutely gwych."

Yn ogystal â chodi arian a phroffil yr elusen, mae'n dweud bod y sialens wedi bod yn gyfle i gadw'r cof yn fyw am ei ffrind a rhoi'r esgus i siarad amdano a rhannu straeon.

Phil a Steffan ac Elliot Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dau o ffrindiau da i Lewis, Phil a Steffan, wnaeth gyd-redeg gydag Elliot

Ond rŵan bod y sialens ar ben, mae'r teimladau yn gymysg.

"Ma' fe'n emosiynol," meddai. "Mae wedi bod yn wych a 'dyn ni wedi codi gymaint o arian sy'n incredible, ond fi'n teimlo hefyd, ydw i'n gwneud disservice â'r elusen a'r bobl maen nhw'n helpu, ac i memory Lewis os fi'n stopio?

"Pan ti'n gorffen rhywbeth mor full on â hyn mae 'na deimlad fel 'o, ocê, dwi 'di gorffen… be' ydi'r peth nesa? Beth nawr?"

Un peth sy'n sicr, meddai, byddai ei ffrind yn ysgwyd ei ben mewn penbleth ar y cyfan.

Fe ddewisodd Elliot redeg marathon y mis gan nad oedd wedi clywed am unrhyw un arall yn gwneud y gamp a gan fod y syniad yn 'clean off' - fel ei ffrind Lewis.

Meddai: "Roedd e'n foi brilliant - clean off - ond fydde fe ddim yn deall pam ni wedi gwneud hyn!"

Elliot Peace yn rhedegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.