Chwilio am gariad wrth fyw gyda chyflwr cronig

Mae Sophie yn fenyw ifanc gyda gwallt hir melyn. Yn y llun yma mae hi'n gwenu ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Richards yn rhannu ei phrofiad hi o fyw gydag endometriosis gyda miloedd ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Pan aeth Sophie Richards ar ei dêt cyntaf gyda Dillon Lewis, roedd hi'n byw gyda phoen parhaol o ganlyniad i endometriosis.

Ar eu trydydd dêt, fe wnaeth y ddau fynychu apwyntiad ffrwythlondeb Sophie er mwyn trafod rhewi ei wyau.

Nawr maen nhw'n benderfynol o normaleiddio sgyrsiau anodd am ddechrau perthynas wrth fyw gyda chyflwr cronig.

Yn ôl elusen Endometriosis UK mae'r cyflwr yn gallu cael "effaith enfawr" ar fywydau rhywiol a pherthnasoedd pobl.

Disgrifiad,

Sophie Richards sy'n trafod dechrau ei pherthynas hi gyda Dillon Lewis, a sut gall pobl eraill helpu pobl sy'n byw gyda chyflwr cronig

"Yr amser nes i gwrdd â sboner fi, Dillon, o'n i yng nghanol e. O'dd symptomau fi'n ofnadwy," meddai Sophie, 29.

Roedd mynd mas am swper bron yn amhosib, meddai Sophie, wrth esbonio bod endometriosis weithiau yn golygu heriau hefyd gyda bwyd.

Mae endometriosis yn gyflwr gynaecolegol sy'n gysylltiedig â mislif, lle mae meinwe tebyg i leinin y groth i'w chael mewn rhannau eraill o'r corff fel yr ofarïau, y tiwbiau ffalopaidd, y pelfis, y coluddyn, y fagina a'r coluddion.

Ar hyn o bryd does dim ffordd o gael gwared â'r cyflwr - dim ond triniaethau i helpu lleddfu symptomau sydd yn bodoli.

Roedd yn golygu bod rhaid i'r cwpl siarad yn agored am gael perthynas a byw gyda'r cyflwr, sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.

Gall symptomau gynnwys poen pelfig, mislif trwm, poen yn ystod neu ar ôl rhyw, ac mae'n gysylltiedig ag anffrwythlondeb.

Yn ôl Sophie, chwilfrydedd Dillon am ei chyflwr sydd wrth galon llwyddiant eu perthynas.

"Mae'r clod i Sophie am fod mor agored," meddai Dillon.

"Doedd hi ddim yn poeni am y cwestiynau twp chwaith, oedd yn beth da."

Gan fod bwyd yn bwnc mor anodd i Sophie, fe wnaeth y cwpl osgoi bwytai crand ac yn lle hynny dewis gweithgareddau fel mynychu nosweithiau comedi.

"Rydyn ni wedi arbrofi gyda llwyth o bethau gwahanol o ran bwyd, i helpu symptomau Sophie," eglurodd Dillon.

Ychwanegodd Sophie: "Roedden ni bob amser yn goresgyn pethau gyda'n gilydd.

"Mewn rhai ffyrdd, rwy'n teimlo ei fod wedi gwneud ein perthynas."

Ond pa wahaniaeth mae'n ei wneud i gael partner sy'n ceisio deall eich cyflwr?

"Dydw i wir ddim yn meddwl y gallwn i fod gyda rhywun oedd ddim eisiau deall yr endometriosis," meddai Sophie.

Yn y llun yma mae Elin yn eistedd ar gadair mewn swyddfa. Mae ganddi wallt hir brown a chyrliog a mae hi'n gwisgo crys glas. Mae hi'n gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Bartlett yn teimlo'n gryf bod angen creu gofod i bobl drafod eu hiechyd

I Elin Bartlett, meddyg dan hyfforddiant a chyflwynydd podlediad iechyd Paid Ymddiheuro, mae'r pwnc yma yn un sydd bendant angen ei drafod.

"Mae perthnasau rhywiol, corfforol, emosiynol yn chwarae rôl mor fawr ym mywydau pawb, pob dydd," meddai.

Mae'n dweud bod cyflyrau fel endometriosis yn gallu achosi poen mawr i bobl wrth iddyn nhw gael rhyw.

Ei gobaith hi yw bod ei chleifion yn teimlo'n hyderus yn cychwyn y sgwrs gyda'u partneriaid.

"Mae o yn hollol normal i gael y trafodaethau yma.

"Mae cymaint mwy o bobl yn delio hefo problemau, cyflyrau, anableddau nad ydyn ni'n gwybod amdano."

Rhi Kemp-DaviesFfynhonnell y llun, Rhi Kemp-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhi Kemp-Davies yn cefnogi pobl gyda'u perthnasau

Mae Rhi Kemp-Davies, therapydd rhyw a pherthnasau o Bontypridd, yn gweithio gyda chyplau bob dydd.

"Mae rhaid i bobl allu siarad," meddai.

Yn ôl y therapydd mae nifer o bobl yn byw gyda phoen corfforol ond ddim yn teimlo'n hyderus am rannu hynny.

"Maen nhw'n cael rhyw a mae e'n brifo a wedyn mae hwnna yn creu rhyw fath o cycle lle dydyn nhw ddim eisiau dweud rhywbeth i'w partner.

"Mae 'na lot o gywilydd."

Yn ôl Rhi Kemp-Davies, mae'n hanfodol dechrau sgyrsiau gonest am yr hyn sy'n gweithio i'r unigolyn.

"Mae'n rili hawdd ddim bod yn onest gyda'ch partner.

"Ond dwi eisiau i bawb ystyried y niwed mae diffyg cyfathrebu yn gwneud i berthynas."

Pynciau cysylltiedig