Y gŵr o Gernyw sy'n barddoni mewn tair iaith

- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o Gernyw, mae Sam Ruane-Brown bellach yn athro Cymraeg ail-iaith ac yn byw yn Rhosllannerchrugog.
Ond mae hefyd yn fardd, ac newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, sy'n gwbl dairieithog – Cernyweg, Cymraeg a Saesneg – a hynny er mai dim ond yn 2011 y dechreuodd ddysgu'r ddwy iaith Geltaidd.
Yn ddyn cwiar o Gernyw sydd yn byw i ffwrdd o'i gynefin, mae wastad wedi teimlo ar y cyrion, meddai. Ond drwy ei farddoniaeth, mae wedi gallu dechrau dod i adnabod pwy wir ydy o.
Dysgu Cymraeg yna'r Gernyweg
Roedd Sam bob amser yn ymwybodol fod y Gernyweg yn bodoli, wrth gwrs, ond roedd hi'n iaith roedd pobl 'draw yn y Gorllewin' yn ei siarad, meddyliodd, ac nid rhywbeth iddo fo ym mhentref bach Komm Trevargh (Tremar Coombe) yn nwyrain Cernyw lle cafodd ei fagu.
Fe gymerodd hi i Sam symud i Gymru i astudio Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor iddo ddysgu'r iaith, eglurodd.
"Yn yr haf cyn mynd, wnes i benderfynu dysgu Cymraeg, achos o'n i'n ymwybodol bod Bangor yn ardal Gymraeg-ei-hiaith. Wnes fwrw ymlaen efo cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y brifysgol.
"Ac ar ôl y ddwy semester gynta, 'nes i sylweddoli – 'dwi'n dod o Gernyw, dwi'n gwneud gradd Almaeneg, dwi'n dysgu Cymraeg, ond mae'n rhaid i mi siarad iaith fy hun!'. Es i ati i ddysgu o lyfrau, dechrau cwrs, a dysgu Cernyweg ar ben fy hun."

Sam a'i ŵr, Sean, mewn pwll llechi yng Nghernyw
'Sam, he's the Cornish one...'
Mae Sam bellach yn gwbl rhugl yn y Gymraeg a'r Gernyweg, ac mae'n teimlo fod dysgu ei famiaith wedi cryfhau'r teimlad o falchder cenedlaethol roedd ganddo erioed am ddod o Gernyw.
"Pan wnes i ddechrau dysgu Cernyweg, o'n i'n gallu deall mwy am yr ardal; ystyr Komm Trevargh ydy rhywbeth fel 'Dyffryn Tre'r March', a Lyskerrys (Liskeard) ydy 'Llys y Ceirw'. Mae hwnna'n dweud mwy am yr hanes, ac o'dd hynny'n ddiddorol.
"Ac er mod i'n dod o 'Loegr', fel rhywun o Gernyw ydw i wedi adnabod fy hun erioed.
"O'n i'n dysgu am hanes Cernyw yn yr ysgol, a dysgon ni am Wrthryfel Llyfrau Gweddi 1549, sy'n rhywbeth pwysig yn y byd Cernyweg. Dyna pryd ddywedon nhw wrth siaradwyr Cernyweg bod nhw ddim yn cael llyfr gweddi yn eu hiaith eu hunain. Roedd gwrthryfel fawr, 'naeth arwain at 10,000 o Gernywiaid yn cael eu lladd.
"Dwi'n cofio dysgu am hwnna a meddwl ei bod hi'n hurt bod ni ddim yn gallu defnyddio ein hiaith ni. Ac roedd hi rŵan 500 mlynedd yn ddiweddarach, a 'dan ni dal i deimlo yr un math o boen. Pam gawson ni ddim cadw ein hiaith?
"Felly mae dysgu'r iaith wedi rili helpu fi dod i 'nabod fy hun yn well. Mae'n teimlo fel rhan naturiol o pwy ydw i. Mae llawer o fy ffrindiau i yn dweud "Sam, he's the Cornish one...".

Dwy olygfa sydd wedi ysbrydoli Sam - o Waun Bodmin, lle cafodd ei fagu, ac o Fynydd Rhiwabon, lle mae'n byw heddiw
Cernywiad i'r carn felly. Ond ag yntau yn byw yn Nghymru, ac yn byw rhan helaeth o'i fywyd yn Gymraeg y dyddiau yma, oes rhan ohono'n dechrau teimlo fel Cymro?
"Mae'n gwestiwn diddorol. Os dwi ddim yn mynd yn ôl i Gernyw rhyw ddydd, baswn i'n aros yng Nghymru, achos dwi'n teimlo mor gartrefol. Dyma lle dwi'n teimlo'n hapus, ac mae'r bobl mor gyfeillgar. Mae Cymru yn lle arbennig iawn a fy ngwlad mabwysiedig i.
"Ond pan dwi'n dysgu Cymraeg, a mae plant yn d'eud, 'I'm not Welsh, I don't need to learn Welsh', fy ymateb i ydy, 'I'm not Welsh, and I'm teaching you Welsh'.
"Felly mae bron yn fwy pwysig i mi ddweud mod i ddim yn Gymro; bod pobl sydd ddim yn Gymry yn gallu siarad yr iaith a gallu hyrwyddo'r iaith."
Barddoni mewn tair iaith
Hap a damwain oedd fod Sam wedi dechrau barddoni, eglurodd. Pan ddechreuodd ddysgu Cernyweg, cafodd syniad mai un ffordd hawdd o wneud hynny fyddai i gyfieithu cerddi Saesneg i'r Gernyweg.
"O'n i'n anghywir... roedd o'n anodd dros ben!" eglurodd Sam. "Ond roedd rhaid i mi ddysgu llawer o ramadeg a geirfa, ac o'n i'n benderfynol o gael yr odl a'r rhythm yn iawn. Ac ar ôl tua blwyddyn a hanner o wneud, 'nes i sylweddoli mod i'n gallu barddoni mewn Cernyweg!"
Mae cyfrol cyntaf o farddoniaeth Sam, Dons Men, yn gwbl dairieithog, gyda phob cerdd yn Gernyweg, Cymraeg a Saesneg.
Ond nid cyfieithiadau pur o'i gilydd sydd yma, ond cerddi unigol sy'n ymdrin â'r un thema, ond mewn ffyrdd gwahanol ac unigryw i'r iaith.

Sam yn perfformio ei farddoniaeth yn Fest Kernewek yn 2019
Felly ym mha iaith mae'n barddoni ynddi gyntaf?
"Mae hynny'n dibynnu ar fy mood i os dwi'n onest! Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dod allan yn Gernyweg yn naturiol. Ond mae rhyw dair neu bedair cerdd yn y gyfrol ar thema mor Gymreig, dim ond yn Gymraeg o'n i'n gallu eu gwneud.
"Roedd rhaid i mi drefnu fy meddyliau a syniadau yn Gymraeg, ei gael yn berffaith yn fy mhen i i ddechrau, wedyn meddwl 'sut fyddai'n gweithio mewn Cernyweg? Sut mae'r darllenwyr am ei weld yn y ffordd dwi eisiau iddyn nhw ei weld o?'
"Dyna ran o'r grefft o drosi ac addasu dy gerddi dy hun i ieithoedd eraill, ac i dal gyfleu'r neges ti eisiau ei chyfleu.
"Ac roedd ambell i gerdd wedi dechrau yn Saesneg ond yna o'n i wedi ei datblygu yn Gernyweg, wedyn roedd ambell i air Cymraeg o'n i'n meddwl amdanyn nhw...
"Dyna pam oedd rhaid i mi wneud y casgliad yn y dair iaith; doedd gen i ddim opsiwn. Ac mae angen eu deall nhw i gyd er mwyn cael y stori yn llawn."
Dysgu am ei hunaniaeth
Mae hunaniaeth yn thema ganolog i gyfrol Sam, gyda theimladau cryf am pwy ydy o yn dod allan yn ei gerddi. Barddoni yw sut mae'n deall ei emosiynau a'r hyn mae'n eu profi, meddai.
"Mae lot o'r cerddi yn trafod y ffaith mod i'n Gernywiad cwiar sy'n byw y tu allan i Gernyw. Mae lot o hiraeth yn y cerddi a thrafod fy lle yn y byd, mewn ffordd bersonol iawn.
"Pan dwi'n cael profiad sy'n teimlo'n enfawr i mi, neu yn teimlo emosiynau mawr, mae'n fy helpu i allu trefnu pethau ar bapur. Dwi'n hunan-ddadansoddi am wn i. Mae rhai pobl yn gwneud journalling, a dwi'n sgwennu barddoniaeth!

Mae teitl y gyfrol - Dons Men - yn golygu 'cylch cerrig' mewn Cernyweg
"Efo pob cerdd dwi'n deall y byd yn well. Dwi'n meddwl fydda i byth yn deall fy lle yn y byd yn hollol iawn, achos dwi bob amser yn mynd i teimlo fel bach o outsider.
"Ond mae ffrind wedi anfon neges ata i am y gyfrol, yn dweud pa mor neis ydy gweld gonestrwydd fel hyn ar dudalen. Ac os oes o leia' un person yn gallu teimlo'n well o weld mod i'n rhannu'r un teimladau â nhw, mae hynny'n codi nghalon i."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mai 2018

- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
