Datgan 'digwyddiad difrifol' yn Sir Fynwy yn dilyn Storm Claudia

Llifogydd TrefynwyFfynhonnell y llun, Kim Kaos
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Trefynwy yn wynebu llifogydd difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae 'digwyddiad difrifol' wedi cael ei ddatgan yn Sir Fynwy yn dilyn glaw trwm iawn wrth i Storm Claudia daro Cymru.

Mae pedwar rhybudd am lifogydd difrifol mewn grym yn yr ardal gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, sy'n golygu bod perygl i fywyd yn bosibl.

Bore Sadwrn roedd pump rhybudd arall am lifogydd mewn grym a nifer o rybuddion 'byddwch yn barod' ar draws Cymru gyfan.

Mewn datganiad fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi datgan 'digwyddiad difrifol' yn dilyn "llifogydd sylweddol ac eang" yn yr ardal.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Stryd siopa yn Nhrefnynwy, Mae'r brif stryd siopa yn Nhrefynwy, Monnow Street, yn wynebu llifogydd difrifol

Yr ardaloedd ble mae afonydd yn wynebu rhybuddion am lifogydd difrifol ydy:

  • Afon Mynwy yn Watery Lane, Uwch Mynwy,

  • Afon Gwy yn Nhrefynwy,

  • Afon Mynwy yn Forge Road yn Osbaston ac

  • Afon Mynwy yn Ynysgynwraidd.

Mae'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau eu bod wedi helpu nifer o bobl i adael eu cartrefi a chyrraedd mannau mwy diogel.

Dywedodd Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Matt Jones:

"Mae hwn yn ddigwyddiad mawr, ac mae ein criwiau a'n partneriaid wedi bod yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos ac i mewn i heddiw er mwyn helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Ni'n annog pawb i osgoi ardal Trefynwy yn llwyr. Mae'r llifogydd yn sylweddol, ac mae angen i ni gadw'r llwybrau'n glir er mwyn caniatáu i'r gwasanaethau brys allu cyrraedd y bobl sydd eu hangen."

Mewn datganiad fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, bod Storm Claudia wedi achosi "llifogydd sylweddol mewn rhannau o Gymru dros nos".

Mae'n annog pawb i ddilyn cyngor y gwasanaethau brys a'r awdurdodau lleol.

Mae hefyd yn cydnabod "ac yn diolch i bawb yn ein cymunedau sy'n helpu eu cymdogion a'u ffrindiau".

'Llawer o waith o'n blaenau'

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn annog pobl i osgoi teithio yn yr ardal, ac yn pwysleisio eu bod yn gweithio'n galed i helpu pawb sydd wedi cael eu heffeithio.

Dywedodd y cynghorydd Martin Newell, sydd â busnes yn y dref ei fod yn torri ei galon wrth feddwl am y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

"Dydw i ddim wedi gweld e mor wael â hyn yn Nhrefynwy am 20 i 30 mlynedd" meddai.

"Ffrindie sy'n berchen y busnesau yma ac sydd hefyd yn byw yn yr eiddo yma".

Roedd yn diolch i'r gwasanaethau brys ac er bod "llawer o waith o'n blaenau ni" i lanhau wedi'r llifogydd "fe wnewn ni fe" meddai.

Richard Mann
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Richard Mann, sy'n byw lleol, ddim wedi gweld llifogydd mor wael ers symud i'r ardal

Mae un preswylydd sy'n byw yn Nhrefynwy, Richard Mann, yn dweud bod y sefyllfa'n hollol "ofnadwy".

I ddechrau doedd e ddim yn credu'r peth.

"Nes i weld ar Facebook yr holl bethe'n digwydd a o'n i'n meddwl ai AI ydy o? Ydy rhywun yn neud jôc?"

Ond ar ôl gyrru lawr i'r canol sylweddolodd ei fod yn wir.

"Mae 'di clirio tipyn bach" meddai "ond ma' dal just yn ofnadwy".

"Dwi'n byw 'ma nawr ers 7 mlynedd ond sai byth 'di gweld e fel hyn o'r blaen.

Ychwanegodd bod llawer o fusnesau wedi cael eu heffeithio a'i fod "just yn edrych yn hollol ofnadwy".

Ebsoniodd eu bod nawr yn "aros i'r dŵr symud ymlaen ond ni'n byw ar bottom Monmouth so ni'n aros nawr i'r dŵr i ddod i ni".

Brynhawn Gwener fe nododd y Grid Cenedlaethol bod dros 2,000 o gwsmeriaid heb bŵer yn ne a gorllewin Cymru.

Ymhlith y rhai hynny roedd bron i 500 eiddo heb drydan rhwng Rhydaman, Glanaman a Brynaman oherwydd nam foltedd uchel.

Roedd dros 300 o gwsmeriaid heb bŵer ar strydoedd yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.

Roedd dros 200 wedi colli cyflenwad yn ardal Caer yng Nghasnewydd ble cafodd y pŵer ei ddiffodd am resymau diogelwch.

Ac roedd 117 eiddo heb bŵer o amgylch ardal Blaenwaun, sydd i'r dwyrain o Grymych.

Llifogydd ym MhenarthFfynhonnell y llun, Gareth Lee
Disgrifiad o’r llun,

Mae llifogydd i'w gweld ym Mhenarth hefyd arweiniodd at o leiaf un busnes yn gorfod cau ddydd Gwener

Nos Wener fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y rheilffordd rhwng Casnewydd a Henffordd a rhwng Henffordd ac Amwythig wedi eu cau.

Maen nhw'n annog pobl i beidio â theithio rhwng Casnewydd ac Amwythig ddydd Sadwrn ac yn annog pawb i wirio eu teithiau cyn dechrau.

Fe gafodd Eisteddfod Dyffryn Ogwen, oedd i fod i gael ei chynnal nos Wener ei chanslo oherwydd y tywydd gwael.

Roedd nifer o ffyrdd yn Sir Fynwy ar gau nos Wener hefyd gan gynnwys yr A4042 ger Llanelen, yr A472 ger Y Felin Fach a'r A40 ger Coldbrook.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig