'Dyn caredig a Chymro' - Siân Owen yn cofio ei hewythr, Richard Burton

Richard BurtonFfynhonnell y llun, BBC/Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Wythnos yma rydyn ni'n nodi canrif ers geni'r eicon Cymreig - yr actor, Richard Burton.

Mae llawer o'i deulu'n parhau i fyw yn ne orllewin Cymru, gan gynnwys ei nith, Siân Owen.

"Wi'n eitha' browd o fod yn nith iddo fe," meddai ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru. "Mae fe wedi marw nawr ers blynydde, a ma' hwn yn dod a fe'i gyd nôl i 'weud y gwir."

Disgrifiad,

Siân Owen yn trafod ei 'Yncl Rich'

Beth yw'r prif bethau sy'n dod i'r cof wrth gofio am ei hewythr?

"Lot o bethau, i ddweud y gwir," meddai Siân.

"Y peth cyntaf, pryd o'n i tua phedair blwydd oed wi'n credu, yr anrhegion yn dod o America a'r excitement oedd 'ma a phawb yn dod mewn i weld nhw!

"Ac wedyn y trunks o ddillad gan Elizabeth."

Dywed Siân y gwnaeth un o ffrindiau ei mam gael clogyn crand gan Elizabeth Taylor yn anrheg, ac fe aeth i'r capel bore Sul gan wisgo'r dilledyn. Ond, nid oedd yn gwybod bod tag ar y dilledyn - 'Elizabeth Taylor, Virginia Woolf!"

'Edrych ar ôl y teulu'

Mae Siân yn cofio'r tro cyntaf i'w hewythr ac Elizabeth Taylor ddod i Bont-rhyd-y-fen.

Meddai: "O fewn tua hanner awr doeddech chi ffaelu symud yn y stryd!

"A phawb gyferbyn â ni fan hyn yn gwneud ffortiwn achos roedd y paparazzi moyn mynd lan lofft i gymryd llunie o Elizabeth yn dod mas o'r tŷ.

"Oedd pawb yn hapus yn y pentref. Ac wedyn oedd e'n mynd i'r dafarn, prynu drincs i bawb - 'na fel oedd e. Oedd e mor garedig i bawb ac oedd e'n edrych ar ôl y teulu'n fawr iawn."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton yn cael diod ym Mhont-rhyd-y-fen gyda'i dad, Richard Jenkins a'i frawd, Ifor

Oedd gwahaniaeth rhwng Burton y seren ac 'Yncl Richard'?

"Wel wrth gwrs achos yn y tŷ fan hyn odden ni ond yn siarad Cymraeg - yr unig dro gath e i siarad Cymraeg i ddweud y gwir. Mae lot o bobl ddim yn credu ma' fe'n siarad Cymraeg yn rhugl, ond 'na ble gath ei eni."

Dywed Siân fod ei wreiddiau Cymreig yn hynod bwysig iddo drwy gydol ei oes.

"Odd e wastad yn dweud 'na ble mae'r 'hiraeth' 'da fe – a'r Pasg cyn iddo fe farw, fe ffoniodd e Mam lan a wedodd e 'Hilda – mae hiraeth arna'i, ond sa'i gallu dod nôl i'r wlad, felly mae'n rhaid i ti a'r teulu ddod mas ata i'.

"A dyna'r tro dwetha' oedd Mam wedi ei weld e. Roedd hi'n falch iawn bod hi 'di cael y Pasg 'na yn Y Swistir."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Burton yn sgwrsio â phlant lleol ym Mhont-rhyd-y-fen ym mis Mehefin, 1953

Mae Siân yn ymaflchïo wrth weld y dathliadau arbennig i ddathlu 100 mlynedd ers geni ei hewythr.

"Anhygoel i ddweud y gwir bo' nhw'n cofio fe ar ôl yr holl flynydde. Ond 'na fe, ma' fe'n bwysig i Bont-rhyd-y-fen, ac mae lot o bobl wedi dod mas.

"Gathon ni'r gyngerdd hyfryd yng Nghastell-nedd, 'nath Rebecca Evans ddodi mlaen - ro'dd e'n noson hyfryd i gofio Yncl Rich."

Bydd Richard Burton yn rhan o'r pentref am byth?

"Wel, 'da fi yn bendant, ond sa i'n gwybod os yw ieuenctid y pentre' yn cofio nawr.

"Falle bo' hyn wedi dod a phethau nôl iddyn nhw. Ond, wel, gymaint a allai ddweud... rwy'n falch bo' nhw'n dathlu nawr, gyda bod fi'n fyw hefyd."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton yn actio rhan Marc Antony efo Elizabeth Taylor (Cleopatra)

Beth mae Siân yn ei gredu oedd mor arbennig am Richard Burton fel actor?

"Wel i'w weld o ar lwyfan... anhygoel. Oedd pawb yn dweud, y peth cyntaf 'nath e ar lwyfan yn Llundain oedd The Boy With the Cart.

"Dim ond un neu ddwy linell oedd 'da fe yn yr holl ddrama. Ond oedd pawb yn dweud pryd o'n nhw 'na – doedden nhw ffaelu edrych ar neb arall ar y llwyfan.

"Beth yw'r gair yn y Gymraeg? Presence! O't ti'n gorfod edrych arno fe.

"A'r un peth yn ei fywyd e... pryd o'n i yn y partis mawr ac enwogion y byd yna, oedd pawb yn edrych ar Yncl Rich, ac fe oedd yr un oedd yn dweud y storïau a phethe fel 'na.

"Ac fe barodd hynny drwy gydol ei yrfa, boed ar lwyfan neu ffilm, roedd 'na rywbeth amdano fe.

"Dysgodd e lot yn y ffilmiau. Yn gweithio 'da Elizabeth, ar ôl y scene gynta' nathon nhw yn Cleopatra, dwedodd Yncl Rich 'Dyw hon ddim yn neud dim byd! Ma'i jyst yn sefyll 'na yn neud dim byd!'

"Ond pryd welodd e'r clips yn ôl – oedd e'n gweld gymaint oedd hi'n neud yn dawel iawn. Dysgodd e lot wrth Elizabeth."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn actio gyda un arall o fawrion Hollywood, Clint Eastwood, yn y ffilm Where Eagles Dare

Oedd Richard yn fwy cyfforddus ar lwyfan neu ar sgrin?

"Wel, fe aeth e ble oedd yr arian i ddweud y gwir," meddai Siân.

"'Sa fe 'di cael siawns i neud King Lear, rwy'n credu 'sa fe wedi neud e, 'na beth oedd e moyn neud yn ei fywyd.

"Oedd e di neud Hamlet, oedd e 'di gwneud Henry, rheiny i gyd. Ond King Lear 'sa fe 'di moyn gwneud."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton gyda'i wraig Sally yn Llundain, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth yn 1984

Roedd Burton yn enwog am y llais a'i ffordd o siarad, a dysgu hynny a wnaeth yn ôl Siân.

"Wel, ble daeth hwnna o? Phillip Burton oedd wedi dysgu fe. Mae'r clod i gyd yn mynd iddo fe," meddai Siân.

'Dagrau'n llifo' yn y premiere

Mae gan Siân deimladau cymysg am y ffilm newydd sy'n trafod bywyd cynnar Richard, Mr Burton.

"Wel oedd 'na gwpl o bethe doeddwn ni ddim yn cytuno â nhw.

"Tad-cu, doedd e ddim fel'na o gwbl. Roedd e'n byw gyda ni pryd o'n i'n ifanc... Beth allwn ni alw fe, poetic licence ife?

Richard Burton
Disgrifiad o’r llun,

Toby Jones a Harry Lawtey yn actio yn y ffilm Mr Burton

"Ond, mae'r ffilm ei hunan yn sefyll yn dda iawn", meddai Siân.

"Pryd aethon ni i'r premiere roedd dagrau'n llifo 'da pawb - y dynion a'r menywod.

"Beth oedden nhw 'di gwneud yn y premiere oedd bod ffrynt y sinema i'r VIPs - fel y ni'n galw'n hunain nawr! - ond yn y cefn roedden nhw 'di gofyn i'r pentref i gyd ddod.

"Oedd hwnna'n neis, i weld pawb 'na - a Toby Jones wrth gwrs, roedd e'n grêt. Ond dim ond dwt yw e! Ac roedd Phillip Burton tua chwe troedfedd! Ond gariodd e'r rhan yn ardderchog, a'r boi oedd yn chwarae Yncl Rich."

Gyda'r dathliadau i gofio Richard Burton yn parhau, sut bydde Siân yn hoffi i bobl gofio am ei hewythr?

"Fel dyn caredig a Chymro. Beth arall alla' i ddweud... dim ond bo' nhw'n cofio fe. A beth ma' fe 'di gwneud i'r ardal."

Pynciau cysylltiedig