Dadorchuddio plac yn Aberystwyth i gyn-golwr Cymru
- Cyhoeddwyd

Leigh Roose (trydydd o'r dde, cefn) gyda thîm peldroed Prifysgol Aberystwyth yn 1894-1895
Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth ddydd Gwener i goffáu pêl-droediwr o Gymru fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Leigh Richmond Roose yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd hefyd yn chwarae i dîm pêl-droed y dref.
Fe aeth ymlaen i chwarae dros glybiau megis Arsenal, Aston Villa a Sunderland, yn ogystal ag ennill 24 cap dros Gymru, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o golwyr gorau ei gyfnod.
Bu farw yn 1916 yn ystod yr ymladd ffyrnig ym Mrwydr y Somme.
Bywyd lliwgar
Dechreuodd Roose chwarae dros dîm Aberystwyth ar ôl dechrau cwrs yn y brifysgol yn 1895, ac yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel myfyriwr fe'i dewiswyd dros Gymru.
Yn ôl y sôn, roedd yn mynnu gwisgo hen grys pêl-droed Tref Aberystwyth o dan ei grys rhyngwladol pan fyddai'n chwarae.
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Aberystwyth, aeth Roose ymlaen i astudio meddygaeth yn Llundain yn ogystal â chwarae dros sawl clwb yn Lloegr.



Roedd ganddo fywyd lliwgar oddi ar y cae hefyd ac ym 1905 fe'i disgrifiwyd gan y Daily Mail fel un o ddynion di-briod mwyaf cymwys Prydain.
Fe ymunodd â Llu Meddygol y Fyddin Frenhinol ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ddiweddarach fe drosglwyddodd i'r Ffiwsilwyr Brenhinol, gan ennill y Fedal Filwrol am ddewrder.
'Ffrind i Aberystwyth'
Er iddo gael ei ladd yn y rhyfel, nid yw enw Roose ar y plac coffa sydd yn adeilad yr Hen Goleg i fyfyrwyr a gollodd eu bywydau.
Ond nawr mae aelodau o Gymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod y gôl-geidwad yn cael ei ychwanegu at y rhestr goffa.
Syniad Rhiannon Steeds, cyn ysgrifennydd ac aelod o'r Gymdeithas, oedd ychwanegu enw Roose.
"Roeddwn am wneud rhywbeth oherwydd y diddordeb mewn nodi canmlwyddiant ers brwydr y Somme ac oherwydd ym mod yn teimlo rhyw atyniad rhyfedd at y cyn-fyfyriwr enigmatig a charismatig hwn," esboniodd.
Cafodd Roose ei ddisgrifio gan Tony Bates, cadeirydd presennol Clwb Pêl-droed Aberystwyth, fel "golwr eithriadol, ffrind i Aberystwyth ac arwr rhyfel".