Toriadau i wasanaethau cerdd ysgolion yn creu 'argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cerddorfeydd blaenllaw wedi rhybuddio fod toriadau i wasanaethau cerdd mewn ysgolion yn achosi "argyfwng" fydd yn cael effaith ar gerddorfeydd proffesiynol.
Dywedodd Owain Arwel Hughes fod diffyg cyfle i gael gwersi gan diwtoriaid yn golygu y gallai cerddorion Cymraeg "ddiflanu" o rai cerddorfeydd.
Mae Mr Hughes yn gyn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd wedi derbyn ei nifer isaf o geisiadau erioed eleni.
Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu cyflwyno cronfa yn 2017 fydd yn ariannu offerynnau i ysgolion.
Dywedodd Mr Hughes: "Un o'r pleserau rwy'n dal i'w fwynhau ydi arwain cerddorfeydd mewn gwahanol ardaloedd a darganfod Cymry, a Chymry Cymraeg yn aml iawn, mewn cerddorfeydd.
"Ond os nad ydym yn mynd i gael y datblygiad yma o bobl ifanc yn chwarae offerynnau a chael eu dysgu, fe fydd hynny'n diflanu. Fyddwn ni ddim yn cael Cymry gwych mewn cerddorfeydd ar hyd y byd, yn unlle."
Cyllidebau
Mae gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yn amrywio ar draws Cymru. Mae rhai cynghorau fel Cyngor Caerdydd wedi torri eu cyllidebau'n llwyr, tra bod cyngorau eraill yn rhannu gwasanaeth cerdd sy'n cynnig gwersi gan diwtoriaid a'r defnydd o offerynnau.
Fe wnaeth y Gweinidog Economi, Ken Skates gyhoeddi cynllun ar gyfer diwylliant Cymru i'r tymor hir yn ddiweddar, ac mae'n cynnwys creu cronfa ar gyfer offerynnau cerddorol.
Mae cerddoriaeth hefyd yn rhan o gynllun peilot diwylliannol gwerth £20m gan Lywodraeth Cymru sy'n gynllun peilot mewn rhai ysgolion. Enw'r cynllun ydi Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.
Dywedodd Mr Skates: "Does dim amheuaeth fod llywodraeth leol, fel Llywodraeth Cymru, wedi delio gyda materion sylweddol wrth geisio rheoli cyllidebau sy'n crebachu yn ystod y cyfnod hwn o gynni.
"Ond ni ddylai'r gostyngiad mewn refeniw yr ydym yn ei gael gan lywodraeth y DU gael effaith ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc.
"Am y rheswm yma rydym yn creu cronfa gwaddol cerddorol, fel y gall pobl o ba bynnag gefndir wireddu eu talentau cerddorol a'u potensial."
Ers i Gyngor Caerdydd gael gwared ar ei wasanaeth cerdd, rhaid i ysgolion yn yr ardal ariannu eu gwersi offerynnol a gweithgareddau eu hunain.
Cydweithio
Mae Emma Coulthard yn cydlynu gwasanaeth cerdd ar ran Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gydweithio gyda phennaethiaid i ariannu a darparu gwersi ac offerynnau cerdd.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn dipyn o newid diwylliannol, gan fod gwersi cerdd yn arfer bod am ddim, ac roeddynt yn cael eu cynnig i ysgolion.
"Ond mae'r sialens ariannol wedi ei gorfodi i feddwl am beth allwn ei greu y byddai pobl yn fodlon buddsoddi ynddo. Achos yn y pen draw fyddai na fyth dim digon o arian i bob plentyn ymhob ysgol i gael unrhyw offeryn yr oedden nhw am ei gael, felly roedd yn fater o ganolbwyntio ar y gorau o'r hyn yr oeddem yn ei wneud, a chreu awch mewn ysgolion i brynnu mewn i hyn fel bod mwy o blant yn cael cyfleoedd."
Dywedodd Ms Coulthard fod y cyfleoedd i blant talentog i fynd yn eu blaen gydag offeryn wedi ei gwtogi ers i gyllidebau gael eu torri.
"Rydym wedi gorfod canolbwyntio mwy ar ddarparu ar gyfer dosbarthiadau cyfan, gan y bydd gan ysgolion y cyllidebau ar gyfer hyn ac yn fwy tebygol o brynnu mewn i hyn. Yr hyn sydd ar goll yw'r plant hynny sy'n dangos gwir dalent - fe fydde ni'n hoffi cynnig gwell llwybrau iddyn nhw fynd yn eu blaen.
"Weithiau gallwn siarad gyda phennaethiaid ac adnabod y plant hynny sy'n fwy galluog , ond mae dod o hyd i offerynnau'n dipyn o sialens achos does gennym ddim stoc o offerynnau wth gefn.
"Rydym yn gobeithio, gyda'r gronfa newydd, y bydd modd mynd i'r afael a hyn fel y gall plant gael yr un cyfleoedd."