Cynghorwyr i drafod cynlluniau ad-drefnu ysgolion Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr ym Môn yn cwrdd ddydd Llun i ystyried cynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Llangefni.
Byddan nhw'n ystyried dau opsiwn ar gyfer ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a'r Graig.
Bydd bwrdd gweithredol Cyngor Môn wedyn yn gwneud argymhellion ar gau ysgolion, eu huno neu godi adeiladau newydd yn eu lle.
Y cam nesaf fyddai cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau.
Mae'r cyngor eisoes wedi ymgynghori â rhieni, llywodraethwyr a staff y chwe ysgol, ynghyd â chynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru.
Opsiwn A
Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd
Adnewyddu Ysgol Esceifiog
Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau
Adnewyddu Ysgol Henblas
Opsiwn B
Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd
Adeiladu ysgol gynradd newydd i 150 o ddisgyblion yng Nghaerwen yn lle Ysgol Esceifiog
Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau
Adnewyddu Ysgol Henblas