Cymru i gael yr hawl i amrywio treth incwm yn 2019

  • Cyhoeddwyd
llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cael mwy o sicrwydd am y berthynas ariannol â'r Trysorlys

Fe allai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i amrywio treth incwm o Ebrill 2019.

Fe ddatgelwyd y gallai'r llywodraeth gael yr hawliau i amrywio treth incwm bryd hynny mewn cytundeb a rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru.

Ebrill 2019 yw'r dyddiad cyntaf lle byddai gan Lywodraeth Cymru yr hawl i amrywio trethi incwm, petai yn dymuno gwneud hynny.

Mae'r cytundeb ehangach yn amlinellu trefniadau cyllidol newydd rhwng y Llywodraeth yng Nghaerdydd a'r Trysorlys.

Mae'r trefniadau newydd yn dod i rym gan fod Llywodraeth Cymru, o Ebrill 2018 ymlaen, yn dechrau casglu trethi ar dir ac ar wastraff.

Yn ôl datganiad a gyhoeddwyd gan y ddwy lywodraeth "bydd Cymru yn cael lefel deg o gyllid ar gyfer y tymor hir."

Newidiadau

Ymhlith y newidiadau, mae trefn newydd i'r ffordd mae maint "grant bloc" Cymru yn cael ei benderfynu.

Bydd ffactor newydd, "yn seiliedig ar anghenion", yn cael ei weithredu o fewn fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian fydd yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru.

Fformiwla Barnett sydd yn penderfynu faint o arian ddylai gael ei ddosbarthu i Gymru o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Disgrifiad,

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi disgrifio'r setliad fel un "cryf a theg"

Bydd y model ariannol newydd yn cymryd i ystyriaeth yr arian fydd yn cael ei gasglu mewn trethi gan Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal mae'r fframwaith newydd yn cynnwys pwerau benthyca cyfalaf ychwanegol.

Bydd uchafswm benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu i £1bn.

'Setliad teg'

Dywedodd David Gauke AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys: "Ar ôl trafodaethau adeiladol, rydyn ni wedi cytuno ar setliad cyllidol teg a thymor hir gyda Llywodraeth Cymru.

"Mae'r llwybr yn glir yn awr i Gynulliad Cymru ganiatáu gweithredu Bil Cymru.

"Rydyn ni'n cyflawni ar ein hymrwymiadau a gall Llywodraeth Cymru benderfynu yn awr sut i ddefnyddio ei phwerau a'i chyfrifoldebau ychwanegol i ddatblygu a chefnogi economi Cymru."

Disgrifiad,

Mae Mark Drakeford yn dweud mai pwynt pwysig y setliad yw datganoli trethi

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: "Rydw i'n falch ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb am fframwaith cyllidol newydd sy'n rhoi sylfaen tymor hir a sefydlog i'n cyllid ni.

"Dyma gytundeb sy'n deg i Gymru ac i weddill y DU.

"Mae'n sicrhau cyllid teg i Gymru ar gyfer y tymor hir, rhywbeth yr ydyn ni wedi gofyn amdano'n gyson, ac mae'n adeiladu ar waith Comisiwn Holtham a'r comisiwn trawsbleidiol, Comisiwn Silk.

"Mae'r pecyn yma o fesurau'n braenaru'r tir ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol yng Nghymru.

"Ond, yn allweddol, mae'n gwarchod ein cyllideb rhag yr ystod o risgiau diangen a allai godi yn dilyn datganoli pwerau trethu o 2018 ymlaen ac mae'n darparu hyblygrwydd ychwanegol i reoli ein hadnoddau."

Sut mae'r fformiwla'n gweithio?

Mae datganiad y ddwy lywodraeth yn disgrifio'r ffordd mae'r fformiwla newydd yn gweithio fel a ganlyn: "Bydd y ffactor newydd, seiliedig ar anghenion, yn cael ei bennu yn 115% fel yr argymhellir gan Gomisiwn Holtham.

"Er bod cyllid cymharol yng Nghymru'n parhau'n uwch na'r lefel anghenion a gafodd ei datgan gan Holtham, bydd newidiadau mewn cyllid drwy fformiwla Barnett yn cael eu lluosogi gan ffactor drawsnewidiol o 105%."